Hyrwyddo’r dewis i gleifion drwy wybodaeth o ansawdd uchel sydd wedi’i theilwra

Matthew Kennedy Macmillan croppedAr hyn o bryd un o bob pum claf canser yn unig yng Nghymru sy’n cael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig. Mae Matthew Kennedy, Swyddog Polisi Macmillan ar gyfer Cymru, yn egluro pam mae’r ddogfen hon sydd i’w rhannu a’r wybodaeth a’r cymorth sydd ynghlwm wrthi’n allweddol er mwyn cyflawni dull sy’n canolbwyntio ar y person mewn gwirionedd.

Thema sy’n codi’n gyson, o ganlyniadau’r Arolwg o Gleifion Canser Cymru, ac wrth drafod ymhellach â phobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser ac â gweithwyr proffesiynol, yw pwysigrwydd gwybodaeth amserol o ansawdd uchel. Mae trafodaethau wedi adlewyrchu rôl gwybodaeth wrth roi rheolaeth i gleifion ar eu triniaeth, er mwyn gwella dealltwriaeth ac er mwyn hyrwyddo cydgynhyrchu.

Er mwyn cyflawni’r lefel hon o ymrymuso, credwn fod cynnig dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cwrdd ag anghenion cleifion yn hanfodol.

Ystyr gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yw mai anghenion y person sy’n byw gyda chanser sydd wrth graidd sut caiff gwasanaethau eu cynllunio bob amser, nid anghenion y rhai sy’n darparu gwasanaethau.  Mae’n golygu trin pobl gyda sensitifrwydd a thosturi a sicrhau bod eu gofal yn holistaidd wrth iddo gael ei gynllunio a’i gyflenwi. Mae’r gofal hwn yn mynd y tu hwnt i’r clinigol i roi sylw hefyd i bryderon cymdeithasol, ariannol, emosiynol, ymarferol, seicolegol ac ysbrydol ehangach.

Mae nifer o ffactorau i’w hystyried er mwyn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyson ac i ansawdd uchel.  Y rhain yw:

  • Ymwneud gweithredol y claf wrth gynllunio a deall y cynllun gofal
  • Asesiadau anghenion cyfannol ac wedi’u personoli a chynllunio gofal ysgrifenedig
  • Gofal wedi’i gydlynu a dilyniant gofal
  • Cyfathrebu da
  • Gwybodaeth a chymorth
  • Cyfeirio at gymorth ariannol, ymarferol ac emosiynol

Mae asesu a chynllunio gofal yn cynnig cyfle i ymgysylltu â phobl wrth wneud  penderfyniadau am eu gofal ac i gynhyrchu gwybodaeth werthfawr er mwyn datblygu cynllun gofal personol.

Dylid gwneud cynllun gofal adeg y diagnosis, ac eto ar ddiwedd y driniaeth neu bryd bynnag y mae anghenion iechyd neu anghenion ehangach yn newid.  Mae’r cynllun gofal a ddatblygwyd ar ôl yr asesiad anghenion cyfannol yn gosod blaenoriaethau ar gyfer gofal, camau gweithredu, amserlenni a’r dulliau sydd eu hangen i roi sylw i anghenion neu bryderon yr unigolyn.

RS18302_20141215_Macmillan_8481-hpr

Dylai’r sawl sydd wedi’i effeithio gan ganser gael cynnig copi ysgrifenedig o’r cynllun gofal gan mai’r unigolyn sy’n ‘berchen ar’ y cynllun gofal a hwn sy’n ei gynorthwyo yn ystod ac ar ôl eu triniaeth. Fodd bynnag, mae canlyniadau’r Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru yn awgrymu nad yw hyn yn digwydd yn gyson.  1 o bob 5 claf canser yn unig a adroddodd iddynt gael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig. Roedd hon yn neges gyson gan gleifion ar draws pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru[1].

Yng Nghymru, mae 19,000 (WCISU Chwe 2015) o bobl yn cael diagnosis canser bob blwyddyn ac mae dros 130,000 o bobl yn byw gyda chanser neu’r tu hwnt iddo ar hyn o bryd, bron i 4.5 y cant o’r boblogaeth.  Erbyn 2030 disgwylir y bydd 250,000, bron i wyth y cant o boblogaeth Cymru, wedi cael eu heffeithio gan ddiagnosis canser a bydd un o bob dau ohonom yn cael ei effeithio gan ganser ar ryw adeg yn ein bywydau.

 Gyda’r galw’n cynyddu mae’n dal i fod yn bwysig fod pob unigolyn sy’n cael diagnosis canser yn cael gwybodaeth a chymorth mewn da bryd i’w helpu i ddeall ei ganser ac i wneud penderfyniadau gwybodus am ei driniaeth a’i ofal. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu cleifion yn well, i leihau risg ac i gynorthwyo cleifion i hunanreoli’n well. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen gwelliannau mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod pobl, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru, neu beth bynnag yw natur eu cyflwr, yn cael mynediad i wybodaeth o ansawdd uchel ar ffurf sy’n cwrdd â’u hanghenion
  • Rhoi cymorth i bobl adnabod gwybodaeth o ansawdd uchel yn hawdd a gyrru gwelliannau o ran ansawdd
  • Sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio’n effeithiol  drwy egluro rôl y gwasanaethau a chynnwys gwybodaeth o fewn y llwybrau gofal – yn enwedig mewn perthynas â chymorth yn dilyn triniaeth ysbyty [2]
  • Hyrwyddo symud o’r sefyllfa lle mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn darparu gwybodaeth i sefyllfa lle maen nhw’n galluogi gwybodaeth, ac yn cynorthwyo pobl i gael gafael ar y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud penderfyniadau ac i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain.

Credwn y byddai’r newid tuag at ddarparu cynllun gofal ysgrifenedig i gleifion yn galluogi mwy o gleifion i hunanreoli eu cyflyrau, yn cynnal ac yn gwella eu lles drwy gydol eu triniaeth a’r tu hwnt iddi, gan ategu gwaith eu clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig eraill.

headline-cancer-amser-dewis-2016 (1)

[1] Quality Health, Ionawr 2014 “ Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru: Adroddiad Cenedlaethol” – http://gov.wales/docs/dhss/publications/140117canceren.pdf (Cyrchwyd 20/08/2015)
[2] Hidden at Home, Cymorth Canser Macmillan Cancer (2015)
Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s