Mae hi bron yn Amser Dewis

Mae Lowri Griffiths, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus ar gyfer lowri-griffiths-pic-lightenedMacmillan yng Nghymru yn sôn am y gwaith y mae Macmillan yn ei wneud cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai.

Mae 2016 yn flwyddyn bwysig inni yma yn Macmillan Cymru wrth inni aros i glywed pwy gaiff ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol nesaf a phwy fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ar ôl mis Mai.

Yng Nghymru, mae 19,000 o bobl (WCISU Chwe 2015) yn cael diagnosis canser bob blwyddyn ac mae dros 130,000 o bobl yn byw gyda chanser neu’r tu hwnt iddo ar hyn o bryd.

Mae cadw canser yn uchel ar yr agenda gwleidyddol yn ganolbwynt pwysig inni dros y 12 mis nesaf. Er gwaetha’r newyddion da fod cyfraddau goroesi’n gwella’n raddol a bod llawer o bobl yn gwella o ganser, mae angen ystyried y cyfraddau goroesi sy’n gwella yng Nghymru yng nghyd-destun cyfraddau goroesi sydd hyd yn oed yn well mewn llawer o wledydd eraill yn Ewrop.

Yn gynharach eleni, rhyddhaodd Cymorth Canser Macmillan ddadansoddiad a oedd yn dangos bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru ar yr un lefel neu’n is na lefel yr oedd llawer o wledydd eraill Ewrop eisoes wedi’i chyrraedd erbyn diwedd y 1990au[1].

Mae 2016 yn adeg i ystyried y newidiadau a wnaed i ofal canser yng Nghymru ers etholiad Cynulliad 2011, ac i ddysgu a gwella ymhellach ar elfennau o Gynllun Cyflawni ar gyfer Canser Law yn Llaw at Iechyd. Ond yn allweddol, mae’n bryd cyflawni’n gyflym ac yn gyson er mwyn sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau posibl i bobl yng Nghymru sydd gyda’r gorau yn Ewrop.

Gyda dros 200 math gwahanol o ganser, mae wedi bod yn her inni ddewis pa negeseuon allweddol y dylem fynd â nhw at y pleidiau gwleidyddol.

Rhoddodd yr Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru 2014 (CPES) gyfle i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser ddweud eu dweud am y gofal y maent wedi’i dderbyn. Roedd dros 7,500 ymateb i’r arolwg ac mae wedi bod yn allweddol o ran ein helpu i lunio ein syniadau gan ei fod yn cadarnhau agweddau cadarnhaol a negyddol ar ofal canser yr oeddem yn gwybod amdanynt yn anecdotaidd ers blynyddoedd lawer.

Drwy lunio’r negeseuon hyn a’u mireinio ymhellach gyda help grŵp o bobl a dynnwyd at ei gilydd yn benodol er mwyn cynorthwyo ein gwaith etholiad, bu’n bosibl inni ddatblygu nifer o alwadau i fynd â nhw at y pleidiau gwleidyddol yn ystod 2014.

Dechreuon ni drwy nodi’r pethau amlwg.

Fel cymuned ganser sy’n gweithio ledled Cymru, mae arnom angen atebion a fydd yn cwrdd ag anghenion pobl fel pobl, nid yn unig fel unigolion sydd bellach yn eu cael eu hunain â diagnosis canser. Mae Gofal sy’n Canolbwyntio ar Unigolion wedi dod yn gonglfaen ein galwadau a dyma fydd thema ein gwaith dylanwadu o hyd gydol 2016.

Y galwadau terfynol yr aethon ni â nhw at y pleidiau yw:

Mae Macmillan eisiau i bob plaid wleidyddol roi blaenoriaeth i ofal canser yn ei maniffesto ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru 2016 ac mae eisiau i bob plaid ymrwymo i’r canlynol:

  1. Canser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu nesaf, gan arwain at strategaeth ganser newydd sy’n cyflawni gofal a thriniaeth a chanlyniadau canser sydd gyda’r gorau yn Ewrop, ble bynnag y mae’r person yn byw, beth bynnag yw ei oed neu’r math o ganser sydd arno.
  2. Dylai conglfaen yr uchelgais hon fod wedi’i wreiddio yn yr egwyddor o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n sicrhau bod pob claf canser yn derbyn gofal a thriniaeth gyfannol wedi’u cydlynu’n dda. Mae’r gofal hwn yn mynd y tu hwnt i’r clinigol i roi sylw hefyd i bryderon cymdeithasol, ariannol, emosiynol, ymarferol, seicolegol ac ysbrydol ehangach.  Mae hyn yn berthnasol i rai sy’n cael triniaeth acíwt, i rai sy’n byw gyda chanser a’r tu hwnt iddo ac i’r rhai sy’n dod at ddiwedd oes.
  3. Arweinyddiaeth a llywodraethu cenedlaethol tryloyw ac wedi’u cryfhau, er mwyn nodi’n eglur yr uchelgais i gyflawni’r strategaeth ganser integredig newydd.

Darllenwch ein maniffesto llawn i weld rhagor o fanylion am ein galwadau.

Dechrau ein gweithgarwch dylanwadu yn 2016 yn unig y mae ein gwaith yn datblygu ein galwadau ac yn siarad â’r pleidiau gwleidyddol am ein negeseuon allweddol. Byddwn yn siarad ag ymgeiswyr o bob un o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru dros y misoedd nesaf ac yn siarad â’n cefnogwyr ledled Cymru i sicrhau ein bod ni’n gwrando arnynt ac yn defnyddio eu profiadau i gefnogi ein sgyrsiau.

Pan fyddwn yn deffro ar 6 Mai, byddwn yn glir beth yw ein huchelgais ar gyfer y 60 Aelod Cynulliad sydd newydd gael eu hethol neu eu hailethol, a’r Llywodraeth a fydd newydd gael ei ffurfio. Cyfnod cyffrous!

Pe hoffech chi ymuno â rhwydwaith e-ymgyrchwyr Macmillan, cliciwch yma

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s