Roeddwn ‘wrth fy modd ac mewn ofn’ pan ofynnwyd i mi fod yn nyrs Macmillan

Datgela Lynne Tanner MBE, Llysgennad Macmillan ei bod ond yn 25 mlwydd oed pan fu farw ei mam o ganser. Yn y blog hwn, edrycha Lynne yn ôl ar ei deng mlynedd fel nyrs gymunedol Macmillan, a sut mae agweddau a dulliau wedi datblygu i “wneud bywyd yn fwy goddefadwy i bobl sydd wedi cael diagnosis â salwch sy’n bygwth bywyd.”  

LYNN FotoRoeddwn i’n 25 oed pan fu farw fy mam. Bu farw o rywbeth nad oeddwn wedi clywed amdano cyn hynny … canser. Ychydig a wyddwn bryd hynny y byddai effaith ei marwolaeth ac achos ei marwolaeth yn cael cymaint o ddylanwad ar weddill fy mywyd.

Collodd fy mam waed a marw yn fy mreichiau wrth i’r nyrs ardal guro ar y drws ffrynt am y tro cyntaf. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach pan ddes i’n nyrs ardal, digwyddodd yr un peth eto ond y tro hwn fi oedd y nyrs a oedd yn cysuro merch a oedd yn ei dagrau.

Ar ôl i’m mam farw es i weithio yn yr ysbyty bach lleol fel nyrs gynorthwyol i’w “gael e allan o fy system’.  Perswadiodd y Fetron yn yr ysbyty bach fi i hyfforddi ac ar ôl cymhwyso a chael profiad, dychwelais i’r un ysbyty bach.   Yn y dyddiau hynny roedd gofal lliniarol yn cynnwys cadw’r cleifion ynghwsg y rhan fwyaf o’r amser gyda chymysgedd “Brompton’s”, cyfuniad o alcohol a morffin.

Daeth cyllid i feddygon teulu a gofynnodd ein meddygfa leol imi a fyddwn i’n mynd i weithio iddyn nhw fel nyrs ardal.  Manteisiais ar y cyfle a sylweddoli’n fuan iawn mai’r gymuned oedd fy “lle arbennig” i, yn enwedig nyrsio “the terminals”, fel roedd cleifion a oedd ag afiechyd na ellid ei wella’n cael eu labelu.

Un diwrnod anfonodd ein Rheolwr Ardal amdanaf a gofyn imi “weithio i fyny” i swydd Gymunedol Macmillan.  Roeddwn i wrth fy modd ac yn ofnus ar yr un pryd ond roedd gennyf gefnogaeth Macmillan a’m gŵr!  Ar ôl chwe mis gwelwyd bod y swydd yn ddichonadwy a chafodd ei hysbysebu.  Ymgeisiais a chael y swydd, er mawr syndod.

Roedd y wybodaeth a lifodd oddi wrth Macmillan yn amhrisiadwy.  Yn ychwanegol at hynny roedden ni’n cael seminarau penwythnos, roedd y rhain yn wych. Heblaw am y wybodaeth a oedd yn cael ei rhoi, roedd cymorth nyrsys Macmillan eraill ar gael. Roeddech chi’n teimlo nad oeddech chi ar eich pen eich hun.

Roedd fy nhîm “Mac” i yn cynnwys dwy nyrs arall, gyda’n gilydd roedden ni’n cwmpasu’r sir i gyd ac roedden ni’n cyfnewid gwybodaeth ymysg ein gilydd.  Roedd Hospis St. Michaels yn y sir ac roedden ni’n ddigon ffodus i gael eu cymorth nhw, yn cyfeirio cleifion at ein gilydd, ac felly’n sicrhau dilyniant y gofal lliniarol.

Fel Nyrs Macmillan gallwn ymgeisio am grantiau Macmillan.  Pan fyddwch yn cael diagnosis afiechyd na ellir ei wella, arian yw’r peth diwethaf rydych eisiau poeni amdano. Gwaetha’r modd, mae peiriannau golchi’n torri, mae poptai microdon yn gwrthod gweithio neu’r ffaith syml eich bod wedi colli cymaint o bwysau’n golygu nad yw eich dillad yn ffitio mwyach, a dyna ergyd arall i’ch hunan-barch. Roedd y grantiau’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau cleifion.  Doedden nhw ddim yn symiau enfawr o arian ond yn ddigon i wneud i bobl beidio â phoeni am fyw o ddydd i ddydd.  Hefyd roedd gennym sawl cadair oedd yn mynd am yn ôl y gallem eu “benthyg” i gleifion. Roedd gweithio mewn partneriaeth gyda SSAFA o fudd hefyd i’r cleifion a oedd gennym ar y cyd. Hefyd roedd cyfle i anfon cleifion a’u gofalwyr i ffwrdd am y penwythnos i westai ar lan y môr.

Gwnaed cyfeiriadau gan yr Oncolegydd Ymgynghorol yn Cheltenham, meddygon teulu neu mewn gwirionedd unrhyw un a oedd ag angen ein help. Roeddwn i’n cwrdd yn gyson â’r meddyg teulu a nyrsys ardal, a’r cyfnewid gwybodaeth o fudd i gleifion a’r staff.

Rheoli symptomau oedd y prif reswm dros gael eich cyfeirio ond gofynnid hefyd am ofal ysbrydol, gan helpu cleifion i deimlo’n gyfforddus gyda nhw eu hunain a’u teuluoedd.  Rwy’n gwybod bod teuluoedd wedi cael cymorth o allu mynegi eu pryderon i berson arall.

Roedd hi’n gysur i gleifion wybod bod y nyrs Macmillan yno bob amser i’w tywys drwy eu taith ganser.  Dywedodd claf wrthyf unwaith ei bod hi’n gymaint o help bod yr un nyrs yno i siarad â hi, tra mewn ysbytai roedd llif o nyrsys gwahanol, pob un yn ceisio bod yn garedig, ond roedd yn gweld eisiau’r cysylltiad o fod â’r un nyrs.

Treuliais ddeng mlynedd yn Nyrs Gymunedol Macmillan a bellach rwy’n Llysgennad Macmillan.  Ni ellir tanbrisio cyfraniad Macmillan drwy ei nyrsys ac ni ddylid gwneud hynny.

Macmillan yw’r rhodd sy’n gwneud i fywyd fod yn haws ei ddioddef i bobl sydd wedi cael diagnosis afiechyd sy’n peryglu eu bywydau.

Yn Macmillan, rydyn ni’n gwybod y gall diagnosis canser effeithio ar bob rhan o’ch bywyd ac rydyn ni yma i roi cymorth ichi. Fe rown ni help ichi gael y cymorth, yr egni a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch chi, fel y gallwch chi ddechrau teimlo fel chi eich hun unwaith eto. Ffoniwch 0808 808 00 00 neu ymweld â macmillan.org.uk

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s