Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru

Susan Morris

Susan Morris

Gan Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau (Cymru)

Pan fyddwch chi’n sâl, mae’r pethau bach mae pobl sy’n eich trin yn eu gwneud yn gallu golygu llawer iawn.

O sut rydych chi’n clywed bod gennych chi salwch i gael gwybod beth i’w ddisgwyl, mae’r pethau hyn i gyd yn dylanwadu ar sut rydym ni’n teimlo am ein gofal.

O’u gwneud yn dda, maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi, ein clywed a’n cefnogi. Pan nad ydyn nhw’n cael eu gwneud cystal, maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo’n ofidus, ein bod ni’n cael ein hanwybyddu ac yn ysgwyd ein hymddiriedaeth.

Y llynedd, am yr ail dro, cynhaliodd Macmillan Cymru Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru gyda Llywodraeth Cymru i’n helpu ni i ddeall sut mae pobl sy’n cael eu trin am ganser yn teimlo am eu gofal.

Cafodd yr arolwg ei bostio at 11,000 o bobl a gafodd eu trin am ganser yng Nghymru yn 2015 i ofyn am eu barn ar bob agwedd ar eu gofal canser.

Rwyf wrth fy modd i 6,714 o bobl (65%) roi eu hamser i ddweud wrthyn ni am eu gofal a’n bod ni’n lansio’r canlyniadau heddiw.

Beth ddywedodd pobl wrthym ni?

At ei gilydd, teimlai pobl yn bositif am eu gofal canser gyda 93 y cant yn graddio eu gofal o leiaf 7 allan o 10 (ar raddfa o 0-10 lle roedd 10 = da iawn), sy’n newyddion ardderchog.

Dwedodd 97 y cant o bobl fod eu holl opsiynau triniaeth wedi eu hesbonio iddyn nhw, sy’n bwysig mewn gofal canser lle mae’n bosibl y bydd amrywiol driniaethau i ddewis o’u plith.

Dwedon nhw wrthym ni fod cael nyrs glinigol arbenigol wedi cael effaith hynod o gadarnhaol ar eu profiad ac roedden nhw’n fwy positif ar 73 allan o 74 o gwestiynau’r arolwg.

Ond dywedodd pobl wrthym ni fod yna feysydd i’w gwella hefyd.

Mae cynllun canser Cymru yn dweud y dylai anghenion pawb gael eu hasesu a dylen nhw gael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig i’w helpu i ymdrin â phryderon ehangach fel cyllid, cefnogaeth emosiynol a grwpiau cymorth.

Ond dwedodd llai nag un o bob pump (18%) o bobl yn yr arolwg eu bod wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig.

Mae’r cynllun canser yn dweud hefyd y dylai pawb sydd wedi cael diagnosis o ganser gael gwybodaeth am sut i gyrchu cyngor a chefnogaeth ariannol – ond llai na hanner y bobl (48%) a gafodd gynnig y gefnogaeth hon.

Mae’r arolwg yn dangos rhai enghreifftiau gwych o ofal canser sy’n cael ei ddarparu’n dosturiol mewn modd sy’n bodloni anghenion pobl â chanser.

Ond mae’n dangos hefyd bod gwaith i’w wneud mewn meysydd allweddol gan gynnwys yr wybodaeth sy’n cael ei rhoi i bobl, eu cynlluniau gofal a chael eu cymryd o ddifrif gan eu meddyg teulu pan fyddan nhw’n amau y gallai fod canser ganddyn nhw.

Beth fydd Macmillan Cymru yn gwneud gyda’r canlyniadau?

Byddwn ni’n edrych ar y canlyniadau i amlygu meysydd sy’n gweithio’n dda y gallai pobl eraill ddysgu ohonyn nhw ac i ymgyrchu am welliannau lle mae eu hangen.

Byddwn ni’n gweithio gyda’r byrddau iechyd i’w cefnogi i ddatblygu gwasanaethau newydd a dulliau o wella eu gofal canser.

Byddwn ni’n darparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi i weithwyr proffesiynol Macmillan a staff sy’n gweithio gyda phobl â chanser.

Byddwn hefyd yn gofyn i’r cyhoedd am eich barn ar y canlyniadau ac am ofal canser drwy gydol yr haf mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Hoffwn i ddiolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg – bydd eich profiadau chi’n ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda mewn gofal canser yng Nghymru a ble mae angen i bethau wella.

  • Beth yw’ch profiad chi o ofal canser yng Nghymru? Gadewch i ni wybod ac ymunwch â’r sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio’r hashtag #wcpes17.
Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s