Category Archives: Events

Q & A with Muggy runner Faye Sharpe

Did you spot Muggy and the Muggettes at the Cardiff Half Marathon? Inside the suit was Fay Sharpe who ran the 13-mile course inside Muggy. We caught up with Fay to find out a little more about her marathon effort!

IMG_0316

You have been running for 30 years, so you are very fit and very experienced but what are the particular challenges of running as Muggy?

It is very hot running in Muggy. Vision is limited to directly in front of you – hence the need for my wonderful Mugettes to act as my spare pair of eyes & ears.

Drinking is an issue unless you remember to bring a straw as there is not enough room to tip up a bottle inside Muggy. Running as Muggy takes a long time – mainly because the spectators are so brilliant and they all want to shake Muggy’s hand, give a high five, drop money in our buckets and sometimes even want Muggy to pose for pictures (which he always does obviously for a small donation)

This is your first Cardiff Half Marathon running as Muggy, and this year he is being joined by the Muggettes. Tell me about Muggy’s helpers? What will they being doing on the day to help Muggy raise money?

The Mugettes are amazing! They do all the hard work – they look after Muggy doing everything from being spare ears & eyes, warning other runners to be careful around Muggy, and also making sure Muggy has enough food and drink. They carry the buckets which can become very heavy in just a few miles. They motivate the crowd to shout for Muggy, they smile at EVERYONE (Muggy does too but people can’t see me smiling from inside Muggy) and all of this whilst running the whole distance with Muggy and also picking up any struggling runners on route and getting them to join Muggy and the Mugettes to the finish line.

Have you set yourself a goal in terms of time or amount raised on the day?

We are assuming about three hours but don’t really care how long it takes us as long as we get to the pub afterwards in time for some lunch and a well earned drink before our bus leaves Cardiff at 5pm to come home to Swansea.

My target from fundraising we have already done and collections on the day is £1500. If we manage to raise this amount, Muggy and the Mugettes will be laughing all the way to the bank and back again.

You’ve been raising money for Macmillan for a good few years now can you tell me why?

I know it is a cliche but everyone DOES know someone affected by cancer. I began volunteering for Macmillan when I retired in 2009 as I wanted to give something back by working for a Charity one day a week. I have always run so when the opportunity arose to run Swansea Bay 10K as Muggy several years ago and try to raise some money for Macmillan, I jumped at the chance. Muggy has now done Swansea 10K lots of times and so this year felt we needed to “up the anti”. We decided  as a team to give Cardiff Half Marathon a go. Twice the distance, twice as many Mugettes needed and so we are hoping to raise at least twice the money (our previous best was approximately £600)

IMG_0322

If people would like to support your fantastic effort, where can they sponsor you?

You can still donate on line at our Justgiving page :

https://www.justgiving.com/fundraising/muggycardiffhalf2017https://www.justgiving.com/fundraising/muggycardiffhalf2017

You are a very experienced runner and obviously adore it, what would suggest to someone who was thinking of taking it up?

Run because YOU can (many others would love to but are physically unable to do so, every step further you take, think of how much it would mean to them if only they could do it)

Run at your own pace & never be afraid to walk if needed (it is not a competition, take your time and while you are out there take time to appreciate this beautiful world we live in).

Run because YOU want to (it is not easy starting off and you have to do it for yourself and not to please or impress anyone else)

Run for pleasure and ALWAYS join a group (if there isn’t one available get your mates to start wit you. It is so much easier in company and you will make friends for life)

Many thanks Fay for giving us your time!

Advertisements

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Fay Sharpe

Gawsoch chi gip ar Muggy a’r Mugettes yn Hanner Marathon Caerdydd? Fe gawson ni sgwrs gyda Fay Sharpe, fu’n sôn wrthym am ei her yn Hanner Marathon Caerdydd:

IMG_0316

Rwyt ti wedi bod yn rhedeg ers 30 mlynedd, felly rwyt ti’n hynod o ffit a phrofiadol, ond beth yw heriau penodol rhedeg yng ngwisg Muggy?

Mae hi’n boeth iawn rhedeg yng ngwisg Muggy. Dim ond yr hyn sydd yn union o’th flaen y galli di ei weld – a dyna pam y bydd arnaf angen fy Mugettes gwych i fod yn barau o lygaid a chlustiau ychwanegol imi.

Mae yfed yn broblem oni bai dy fod ti’n cofio dod â gwelltyn, gan nad oes digon o le i ddal potel ar ei phen i lawr y tu mewn i wisg Muggy. Ac mae rhedeg fel Muggy yn cymryd amser hir – yn bennaf oherwydd bod y gwylwyr mor wych a bod pob un ohonynt eisiau ysgwyd neu daro llaw Muggy, gollwng arian yn ein bwcedi neu hyd yn oed weithiau eisiau cael tynnu eu llun gyda Muggy (ac mae o wastad yn barod i wneud hynny, yn amlwg, am gyfraniad!).

Hwn fydd y tro cyntaf iti redeg Hanner Marathon Caerdydd yng ngwisg Muggy, ac eleni bydd y Mugettes yn ymuno ag o. Dwed rywfaint wrtha i am gynorthwywyr Muggy. Beth fyddan nhw’n ei wneud ar y diwrnod i helpu Muggy i godi arian?

Mae’r Mugettes yn arbennig! Maen nhw’n gwneud yr holl waith caled – maen nhw’n edrych ar ôl Muggy ac yn gwneud popeth: bod yn barau ychwanegol o lygaid a chlustiau iddo, rhybuddio rhedwyr eraill i fod yn ofalus o amgylch Muggy, a gwneud yn siŵr bod Muggy’n cael digon i’w fwyta a’i yfed. Maen nhw’n cario’r bwcedi, sy’n gallu bod yn drwm iawn ar ôl dim ond ychydig filltiroedd. Maen nhw’n annog y dyrfa i weiddi ei chefnogaeth i Muggy, maen nhw’n gwenu ar BAWB (mae Muggy’n gwenu hefyd, ond all neb fy ngweld yn gwenu y tu mewn i’r wisg) – heb anghofio, wrth gwrs, y ffaith eu bod yn rhedeg y ras ar ei hyd gyda Muggy a hefyd yn casglu unrhyw redwyr sy’n cael trafferthion ar hyd y daith ac yn eu hannog i ymuno â Muggy a’r Mugettes er mwyn cyrraedd y llinell derfyn.

Wyt ti wedi gosod targed i ti dy hun o ran amser neu o ran faint o arian y byddwch chi’n ei godi ar y diwrnod?

Rydyn ni’n tybio y bydd yn cymryd tua teirawr, ond does dim ots gennyn ni faint o amser a gymer mewn gwirionedd, dim ond ein bod ni’n cyrraedd y dafarn mewn pryd i gael cinio a diod fach haeddiannol cyn i’n bws ni adael Caerdydd am 5pm er mwyn dod adref i Abertawe.

Fy nharged ar gyfer yr arian yr ydym wedi’i godi’n barod a’r casgliadau ar y dydd yw £1,500. Os llwyddwn ni i godi cymaint â hynny o arian, bydd Muggy a’r Mugettes ar ben eu digon.

Rwyt ti wedi bod yn codi arian i Macmillan ers blynyddoedd erbyn hyn. Allet ti egluro pam wrtha i?  

Gwn ei fod yn swnio fel cliché, ond mae pawb yn adnabod rhywun y mae canser yn effeithio arnynt. Dechreuais wirfoddoli i Macmillan wedi imi ymddeol yn 2009 gan fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl drwy weithio i elusen un diwrnod yr wythnos. Rydw i wastad wedi bod yn rhedwraig felly pan ddaeth cyfle i redeg ras 10K Bae Abertawe yng ngwisg Muggy sawl blwyddyn yn ôl er mwyn codi arian i Macmillan, fe fachais arno’n syth. Mae Muggy wedi rhedeg 10K Abertawe sawl gwaith erbyn hyn ac felly eleni roedden ni’n teimlo bod angen mwy o her arnom. Fe benderfynon ni fel tîm roi cynnig ar Hanner Marathon Caerdydd. Mae’n ddwywaith y pellter ac mae angen dwywaith cymaint o Mugettes felly rydyn ni’n gobeithio codi o leiaf ddwywaith cymaint o arian (ein record ar hyn o bryd yw tua £600).

IMG_0322

Pe byddai pobl yn hoffi cefnogi dy ymdrech arbennig di, sut gallan nhw dy noddi?

Gallan nhw fy noddi ar y diwrnod drwy roi arian yn un o’n bwcedi, neu gallan nhw gyfrannu ar-lein ar ein tudalen JustGiving:

https://www.justgiving.com/fundraising/muggycardiffhalf2017

Rwyt ti’n rhedwraig brofiadol iawn ac yn amlwg wrth dy fodd yn rhedeg. Pa awgrymiadau fyddai gen ti i rywun sy’n ystyried dechrau rhedeg?

Rhedwch oherwydd eich bod CHI’n gallu. (Byddai cymaint o bobl eraill yn caru gallu rhedeg ond mae rhesymau corfforol yn eu hatal nhw rhag gallu gwneud hynny. Am bob cam ymlaen y byddwch yn ei gymryd, ystyriwch gymaint y byddai’n ei olygu iddyn nhw pe gallen nhwythau hefyd wneud yr un fath.)

Rhedwch ar eich cyflymder eich hun a pheidiwch byth â bod ofn cerdded os oes angen (nid cystadleuaeth yw hi, cymerwch eich amser, a thra rydych chi wrthi gallwch werthfawrogi’r byd hyfryd yr ydyn ni’n byw ynddo).

Rhedwch oherwydd eich bod CHI eisiau gwneud hynny (dyw hi ddim yn hawdd cychwyn arni ac mae’n rhaid ichi wneud hyn ar eich cyfer chi eich hun, ac nid i blesio neu i geisio gwneud argraff ar rywun arall).

Rhedwch er pleser ac ymunwch â grŵp, HEB OS (os nad oes grŵp ar gael, cychwynnwch un gyda’ch ffrindiau. Mae gymaint yn haws pan fydd gennych gwmni, ac fe wnewch chi ffrindiau am oes.).

 

Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru

Susan Morris

Susan Morris

Gan Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau (Cymru)

Pan fyddwch chi’n sâl, mae’r pethau bach mae pobl sy’n eich trin yn eu gwneud yn gallu golygu llawer iawn.

O sut rydych chi’n clywed bod gennych chi salwch i gael gwybod beth i’w ddisgwyl, mae’r pethau hyn i gyd yn dylanwadu ar sut rydym ni’n teimlo am ein gofal.

O’u gwneud yn dda, maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi, ein clywed a’n cefnogi. Pan nad ydyn nhw’n cael eu gwneud cystal, maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo’n ofidus, ein bod ni’n cael ein hanwybyddu ac yn ysgwyd ein hymddiriedaeth.

Y llynedd, am yr ail dro, cynhaliodd Macmillan Cymru Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru gyda Llywodraeth Cymru i’n helpu ni i ddeall sut mae pobl sy’n cael eu trin am ganser yn teimlo am eu gofal.

Cafodd yr arolwg ei bostio at 11,000 o bobl a gafodd eu trin am ganser yng Nghymru yn 2015 i ofyn am eu barn ar bob agwedd ar eu gofal canser.

Rwyf wrth fy modd i 6,714 o bobl (65%) roi eu hamser i ddweud wrthyn ni am eu gofal a’n bod ni’n lansio’r canlyniadau heddiw.

Beth ddywedodd pobl wrthym ni?

At ei gilydd, teimlai pobl yn bositif am eu gofal canser gyda 93 y cant yn graddio eu gofal o leiaf 7 allan o 10 (ar raddfa o 0-10 lle roedd 10 = da iawn), sy’n newyddion ardderchog.

Dwedodd 97 y cant o bobl fod eu holl opsiynau triniaeth wedi eu hesbonio iddyn nhw, sy’n bwysig mewn gofal canser lle mae’n bosibl y bydd amrywiol driniaethau i ddewis o’u plith.

Dwedon nhw wrthym ni fod cael nyrs glinigol arbenigol wedi cael effaith hynod o gadarnhaol ar eu profiad ac roedden nhw’n fwy positif ar 73 allan o 74 o gwestiynau’r arolwg.

Ond dywedodd pobl wrthym ni fod yna feysydd i’w gwella hefyd.

Mae cynllun canser Cymru yn dweud y dylai anghenion pawb gael eu hasesu a dylen nhw gael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig i’w helpu i ymdrin â phryderon ehangach fel cyllid, cefnogaeth emosiynol a grwpiau cymorth.

Ond dwedodd llai nag un o bob pump (18%) o bobl yn yr arolwg eu bod wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig.

Mae’r cynllun canser yn dweud hefyd y dylai pawb sydd wedi cael diagnosis o ganser gael gwybodaeth am sut i gyrchu cyngor a chefnogaeth ariannol – ond llai na hanner y bobl (48%) a gafodd gynnig y gefnogaeth hon.

Mae’r arolwg yn dangos rhai enghreifftiau gwych o ofal canser sy’n cael ei ddarparu’n dosturiol mewn modd sy’n bodloni anghenion pobl â chanser.

Ond mae’n dangos hefyd bod gwaith i’w wneud mewn meysydd allweddol gan gynnwys yr wybodaeth sy’n cael ei rhoi i bobl, eu cynlluniau gofal a chael eu cymryd o ddifrif gan eu meddyg teulu pan fyddan nhw’n amau y gallai fod canser ganddyn nhw.

Beth fydd Macmillan Cymru yn gwneud gyda’r canlyniadau?

Byddwn ni’n edrych ar y canlyniadau i amlygu meysydd sy’n gweithio’n dda y gallai pobl eraill ddysgu ohonyn nhw ac i ymgyrchu am welliannau lle mae eu hangen.

Byddwn ni’n gweithio gyda’r byrddau iechyd i’w cefnogi i ddatblygu gwasanaethau newydd a dulliau o wella eu gofal canser.

Byddwn ni’n darparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi i weithwyr proffesiynol Macmillan a staff sy’n gweithio gyda phobl â chanser.

Byddwn hefyd yn gofyn i’r cyhoedd am eich barn ar y canlyniadau ac am ofal canser drwy gydol yr haf mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Hoffwn i ddiolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg – bydd eich profiadau chi’n ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda mewn gofal canser yng Nghymru a ble mae angen i bethau wella.

  • Beth yw’ch profiad chi o ofal canser yng Nghymru? Gadewch i ni wybod ac ymunwch â’r sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio’r hashtag #wcpes17.

Q & A with Sarah Wilson: Macmillan legacy garden designer

Garden Designer Sarah Wilson is the creative brains behind Macmillan’s legacy garden. We asked Sarah to tell us a bit about the inspiration behind her garden design and the practical challenges of building a show garden.

You can visit the Macmillan legacy garden at the RHS Flower Show Cardiff between Friday 7 and Sunday 9 April 2017.

Macmillan Legacy Garden Designer Sarah Wilson

Garden Designer Sarah Wilson

What are the challenges of designing a garden for Macmillan Cancer Support?

The challenges are always the same for every show garden; delivering a beautiful garden on time and on budget!

With the legacy garden though, it was imperative that I fulfil the brief of creating a garden that links back to the central concept of Legacy.

It took time to work out how the theme could be explored throughout every aspect of the garden but I feel happy that visitors to the garden will be able to relate the garden back to the concept and hopefully it will encourage people to think about their own legacies.

Quote - The true meaning of life is to plant trees, under show shade you do not expect to sit.

What do you want people to feel when they come to the garden?

I designed the garden to be a calm and contemplative space. The quote addressing the idea of what you leave behind once you are gone is at the centre of the garden and by reading it, I hope people will take a moment to consider the meaning behind the quote.

Tell us a bit about the sculpture at the heart of the garden?

The sculpture is the central feature from which the rest of the garden radiates. The quote is engraved around the sculpture and to mirror the sentiment behind the quote, the garden literally spreads out from this point in circles to signify a ripple effect.

The ripples represent the far reaching consequences of actions taken in the present that resonate even after a person is no longer here.

Illustration of the Macmillan legacy garden

Illustration of the Macmillan legacy garden

What goes into creating a garden for the RHS Flower Show in Cardiff? Who else is involved?

The garden is created by a whole team of people starting with those at Macmillan who made the whole thing possible. My hard-working landscapers Smartscape will be building the garden and I have a host of excellent nurseries supplying plants.

The materials have been donated either wholly or in part by Selco and Kinley Systems respectively and the bench has kindly been donated by The Garden Furniture Centre.

Without the hard work and generosity of these companies, the garden would not have happened so I’m extremely grateful to everybody involved.

How long will it take to install the Macmillan Legacy garden?

The garden will take approximately nine days to complete.

Tell us about how you got into garden designing?

I got into garden design following a career change to horticulture around eight years ago. I spent the majority of my time looking after gardens other people had designed and I decided that I’d love to design spaces myself. My aim is to create gardens that work for people where their ideas can come to life.

Do you have any connections with Wales?

I spent the most amazing week at a place called Stout Hall in the Gower Peninsula when I was at school. We took walking trips around the area and spent time outdoors and I fell in love with Wales as a result of that.

You can find out more about Macmillan’s Legacy Garden on the RHS Flower Show Cardiff website.

Gifts in wills are an amazing way of continuing your support for Macmillan long into the future.If you would like to know more please visit our website.

You can follow Sarah on Twitter @swilson09 

Dylunydd Gerddi Sarah Wilson ar greu man ‘hamddenol a myfyriol’ i Macmillan

Y Dylunydd Gerddi, Sarah Wilson, yw’r gallu creadigol y tu ôl i Ardd Gymynroddion Macmillan.  Fe wnaethom ofyn i Sarah ddweud ychydig wrthym am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i ddyluniad ei gardd a heriau ymarferol adeiladu gardd arddangos.

Dylunydd Gerddi, Sarah Wilson

Dylunydd Gerddi, Sarah Wilson

Gallwch ymweld â Gardd Gymynroddion Macmillan yn Sioe Flodau RHS Caerdydd rhwng Dydd Gwener 7 a Dydd Sul 9 Ebrill 2017.

Beth yw heriau dylunio gardd ar gyfer Cymorth Canser Macmillan?

Mae’r heriau yr un peth i bob gardd arddangos; cyflwyno gardd brydferth ar amser ac o fewn y gyllideb!

Ond gyda’r Ardd Gymynroddion, roedd yn hanfodol fy mod yn bodloni’r cyfarwyddyd o greu gardd sy’n cysylltu’n ôl i gysyniad canolog Cymynroddion.

Cymerodd amser i ganfod sut y gellid archwilio’r thema trwy bob agwedd ar yr ardd ond rwy’n teimlo’n hapus y bydd ymwelwyr â’r ardd yn gallu cysylltu’r ardd â’r cysyniad a bydd yn annog pobl, gobeithio, i feddwl am eu cymynroddion eu hunain.

Beth ydych eisiau i bobl deimlo pan fyddant yn dod i’r ardd?

Quote - The true meaning of life is to plant trees, under show shade you do not expect to sit.

Dyluniais yr ardd i fod yn ofod hamddenol a myfyriol. Mae’r dyfyniad sy’n mynd i’r afael â’r syniad o’r hyn yr ydych yn ei adael ar ôl unwaith y byddwch wedi mynd yn ganolog i’r ardd a thrwy ei ddarllen, gobeithio bydd pobl yn cymryd eiliad i ystyried yr ystyr y tu ôl i’r dyfyniad.

Macmillan-Legacy-Garden-1088-x-612

Dyluniad Sarah Wilson o’r ardd. Mae’r ardd yn cysylltu â’r cysyniad o gymynroddion.

Dywedwch ychydig wrthym am y cerflun sydd yng nghanol yr ardd?

Y cerflun yw’r nodwedd ganolog gyda gweddill yr ardd yn treiddio ohono. Mae’r dyfyniad wedi ei argraffu o amgylch y cerflun ac er mwyn adlewyrchu’r teimlad yn y dyfyniad, mae’r ardd yn llythrennol yn ymestyn o’r fan hon mewn cylchoedd i gyfleu effaith crychau. Mae’r crychau’n cynrychioli canlyniadau pellgyrhaeddol gweithredoedd y presennol sydd yn bodoli hyd yn oed pan na fydd person yma bellach.

Beth mae creu gardd ar gyfer Sioe Flodau RHS yng Nghaerdydd yn ei olygu? Pwy arall sydd yn gysylltiedig?

Caiff yr ardd ei chreu gan dîm cyfan o bobl gan ddechrau gyda’r rheiny ym Macmillan a wnaeth yr holl beth yn bosibl. Bydd fy nhirlunwyr gweithgar, Smartscape, yn adeiladu’r ardd ac mae gennyf ystod o feithrinfeydd rhagorol fydd yn darparu planhigion.

Mae’r deunyddiau wedi cael eu rhoi yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Selco a Kinley Systems yn y drefn honno a rhoddwyd y fainc trwy garedigrwydd The Garden Furniture Centre.

Heb waith caled a charedigrwydd y cwmnïau hyn, ni fyddai’r ardd wedi cael ei chreu felly rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd yn gysylltiedig.

Faint o amser fydd hi’n cymryd i osod Gardd Gymynroddion Macmillan?

Bydd yr ardd yn cymryd tua naw diwrnod i’w chwblhau.

Dywedwch rywbeth wrthym am y ffordd y gwnaethoch ddechrau dylunio gerddi?

Dechreuais ddylunio gerddi ar ôl newid gyrfa i arddwriaeth tua wyth mlynedd yn ôl. Roeddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn gofalu am erddi yr oedd pobl eraill wedi eu dylunio a phenderfynais y byddwn yn hoffi dylunio mannau fy hun. Fy nod yw creu gerddi sy’n gweithio i bobl lle gall eu syniadau ddod yn fyw.

A oes gennych unrhyw gysylltiadau â Chymru?

Treuliais wythnos anhygoel mewn lle o’r enw Stout Hall ar Benrhyn Gŵyr pan oeddwn yn yr ysgol. Aethom ar deithiau o amgylch yr ardal a threulio amser yn yr awyr agored a syrthiais mewn cariad â Chymru o ganlyniad i hynny.

Gallwch ganfod mwy am Ardd Gymynroddion Macmillan ar wefan Sioe Flodau RHS Caerdydd.

Mae rhoddion mewn ewyllys yn ffordd anhygoel o barhau i gefnogi Macmillan i’r dyfodol.  Os hoffech wybod mwy ewch i’n gwefan.

Taking Cancer Services Health and Well-being advice to into the community

Michelle Lloyd, is the Macmillan Person Centred Care Project Manager with Cwm Taf University Health Board. In her blog, Michelle writes about the importance of holding health and wellbeing events out of the clinical setting and in the community.

We often talk about the importance of delivering care closer to home (where appropriate to do so!). I think the same is true about how we engage with our local community – we need to be out there providing advice and support in ways which are easy for our community to access. So where better a place to go than the Tonyrefail Workingmen’s Club in Porth?

 

michelle_lloyd-cropped-lightened

Michelle Lloyd

On Friday 4 November, the Workingmen’s Club proved to be an ideal venue for us to meet with our cancer patients, their relatives and carers. The aim of the event was to provide health and well-being advice to people living with cancer and ensure that they are receiving the best possible care according to their needs.

During the three hours we spent there, we managed to speak with patients, relatives and carers, providing much needed signposting to information and other support networks. In total, 46 people signed in to the event and for some, it was a great opportunity to find out about things like the National Exercise Referral Scheme or the Macmillan Activity Programme.

The overwhelming feedback from the day was simple. As one patient said, the important thing to them was “to be able to talk to someone and have advice”.

It is important that people feel well supported and are provided with good levels of information. It ensures that patients have what they need to make informed decisions about their care and to help them to become more able to self-manage their conditions.

All in all, it was a really beneficial event which allowed cancer patients to not only talk to health care professionals but to also spend time talking with other patients and their families about their own experiences.

We’ll certainly be doing more of these events in the future!

well-being-event-2000x2000

In the meantime, if you know anyone who wants someone to talk to about cancer, then call Macmillan Cancer Support free on 0808 808 00 00 or visit macmillan.org.uk

Mynd â Chyngor Iechyd a Lles Gwasanaethau Canser i’r gymuned

Michelle Lloyd yw Rheolwr Prosiect Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Macmillan gyda  Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn ei blog, mae Michelle yn ysgrifennu am bwysigrwydd cynnal digwyddiadau iechyd a lles y tu allan i’r lleoliad clinigol ac yn y gymuned.

michelle_lloyd-cropped-lightened

Michelle Lloyd

Rydyn yn aml yn sôn am bwysigrwydd cyflwyno gofal yn nes at y cartref (lle mae’n briodol gwneud hynny!). Rwy’n credu bod yr un peth yn wir am sut rydym yn ymgysylltu â’n cymuned leol – mae angen inni fod allan yno’n cynnig cymorth a chefnogaeth mewn ffyrdd sy’n hawdd i’n cymuned gael mynediad atynt. Felly, does unman gwell i fynd na Chlwb Gweithwyr Tonyrefail yn y Porth.

Ddydd Gwener, 4 Tachwedd, bu’r Clwb Gweithwyr yn lleoliad delfrydol inni gwrdd â’n cleifion canser, â’u perthnasau ac â’u gofalwyr. Nod  y digwyddiad oedd cynnig cyngor iechyd a lles i rai sy’n byw gyda chanser a sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posibl yn ôl eu hanghenion.

Yn ystod y tair awr a dreulion ni yno, llwyddon ni i siarad â chleifion, perthnasau a gofalwyr, gan gyfeirio llawer at wybodaeth ac at rwydweithiau cefnogi eraill. At ei gilydd, cofrestrodd 46 o bobl ar y digwyddiad ac i rai, roedd yn gyfle gwych i gael gwybod am bethau fel y Cynllun Cyfeirio i Ymarfer Cenedlaethol neu Raglen Gweithgareddau Macmillan.

Roedd yr adborth cyffredinol o’r diwrnod yn syml. Fel y dywedodd un claf, y peth pwysig iddo oedd “gallu siarad â rhywun a chael cyngor”.

Mae’n bwysig fod pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda a’u bod yn cael digon o wybodaeth. Mae’n sicrhau bod gan gleifion yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal ac i’w helpu i allu rheoli eu cyflyrau eu hunain yn well.

At ei gilydd, roedd yn ddigwyddiad buddiol dros ben a alluogodd cleifion canser nid yn unig i siarad â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ond hefyd i dreulio amser yn siarad â chleifion eraill a’u teuluoedd am eu profiadau nhw eu hunain.

Byddwn ni’n sicr yn gwneud rhagor o’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol!

well-being-event-2000x2000

Yn y cyfamser, os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd eisiau rhywun i siarad ag ef/hi am ganser, yna ffoniwch Cymorth Canser Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00  neu ewch i macmillan.org.uk

 

Cathy Simms: Pam rydw i’n gwneud her Go Sober for October

Mae Cathy Simms wedi goroesi canser ac mae’n ymgyrchydd dros Macmillan. Yma, mae’n egluro pan mae hi’n cymryd rhan yn ymgyrch Go Sober for October a pham bod yr elusen mor bwysig iddi:

cathy-sober-hero-2

Dywedwch wrthon ni am eich siwrnai drwy ganser a’ch perthynas â Chymorth Canser Macmillan yng Nghymru

Mae Macmillan yn elusen arbennig iawn i mi. Pan ges i ddiagnosis o ganser y coluddyn graddfa 3 ym mis Rhagfyr 2012, ces i gyngor a chefnogaeth gan Macmillan gydol fy siwrnai drwy ganser, yn cynnwys cefnogaeth emosiynol, cyngor ariannol a chyngor cwbl hanfodol ar wahaniaethu ar sail canser yn y gweithle ac mewn deddfwriaeth.

Roedd y canser yn sail i wahaniaethu yn fy erbyn gan fy nghyflogwr blaenorol. Cynhaliwyd achos llys hynod anodd, gofidus a hirfaith, pan oedd cwmni rhyngwladol yn gwadu gwahaniaethu, a’i gyfreithiwr a’i fargyfreithiwr yn mynnu nad oedd gen i anabledd.

O’r adeg y cyflwynais i’r achos, ro’n i’n gwybod byddai’r gyfraith yn fy amddiffyn yn erbyn gwahaniaethu, ac y byddai’n gwneud yn y dyfodol hefyd, gan fod gen i ganser.

Enillais yr achos ac mae gen i ddyfarniad o wahaniaethu yn erbyn y cwmni. Y peth gorau oedd clywed y barnwr, wrth grynhoi’r achos, yn dweud wrth y bargyfreithiwr ‘nad oedd e’n hyddysg yn y gyfraith’, a bod y ddeddfwriaeth yr oeddwn wedi dweud wrth bawb amdani yn fy amddiffyn, ac y bydd hi bob amser yn gwneud, am fy mod wedi cael canser.

Ers i mi gael canser a gwella, rwy wedi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i fod wedi goroesi, a rwy wedi bod yn awyddus i godi arian i Macmillan i helpu pobl eraill fel ces i fy helpu.

Rydych chi’n ymgyrchu’n benodol dros well ddealltwriaeth o ganser a gwahaniaethu yn y gweithle. Ond pam penderfynu derbyn her Go Sober for October?

Mae fy ngyrfa hunangyflogedig fel cynllunydd safleoedd manwerthu yn waith trwm. Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn eistedd o flaen cyfrifiadur neu’n gyrru ledled y DU i ymweld â safleoedd gosod siopau, hyd yn oed ar benwythnosau,. O ganlyniad, does gen i ddim llawer o amser i wneud ymarfer corff a dyw fy lefelau ffitrwydd ddim yn dda.

Ers i mi gael llawdriniaethau mawr ychydig flynyddoedd yn ôl, mae ymarfer corff wedi bod yn anodd i mi, felly dydw i ddim yn ffyddiog y gallwn i redeg, seiclo na hyd yn oed cerdded am filltiroedd maith [i godi arian dros Macmillan].

Rwy wedi yfed yn gymdeithasol erioed, gan fwynhau nosweithiau allan gyda ffrindiau, bwyd da a gwinoedd da, ac ambell ddiod gyda fy ngŵr gyda’r nos ac ar benwythnos. Ond dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, rwy wedi bod yn yfed yn fwy cyson, ac wedi defnyddio alcohol yn rheolaidd yn gefn i mi yn ystod cyfnodau caletaf y canser, yr achos llys a’r problemau ariannol a ddaeth i’w dilyn.

Er bod y rhan fwyaf o’r anawsterau y tu cefn i mi erbyn hyn, pan fydda i’n cael diwrnod anodd, bydda i’n ymlacio â gwydraid mawr o win gyda’r nos. Ond mae llai o saib rhwng pob gwydraid bellach, a ro’n i’n teimlo fel petawn i’n mynd yn fwy dibynnol ar alcohol, a bod hyn yn effeithio ar fy iechyd, yn enwedig â phrognosis o ganser. Roedd yfed cymaint yn wael i fy iechyd ac roedd angen i mi wynebu’r broblem.

Sut mae pythefnos cyntaf yr her wedi mynd?

Roedd yr wythnos gyntaf yn wirioneddol anodd. Ro’n i mor flinedig nes ’mod i’n cysgu mor aml ag y gallwn i.

Roedd hi’n fwriad genimg_8086 i fwyta’n iachach mewn ymgais i golli pwysau, ond pan ddechreuodd yr awch cyson am ddiod, troi at fwydydd melys wnes i, a llowcio hufen iâ, siocled a chacennau i ymdopi â’r awch. Mi weithiodd, ond dyw e ddim wedi helpu o ran colli pwysau!

Rwy wedi mynd i ambell ddigwyddiad cymdeithasol lle basen i fel arfer wedi cael diod – i’r bingo gyda ffrindiau, pan yrrais i ac yfed Coke, cinio dydd Sul tri chwrs arbennig gyda fy mab yn y Celtic Manor, a chiniawau teithiau busnes â bwyd da, ond ches i ddim gwin.

Ydych chi’n debygol o gyflawni’r mis cyfan, neu fyddwch chi’n prynu Tocyn Aur i gael noson i ffwrdd?

Rwy’n teimlo mai twyllo fyddai prynu Tocyn Aur, ac rwy am wneud y mis cyfan. Mae fy ffrindiau a fi wedi cael ein gwahodd i barti priodas wythnos nesa, ac rwy wedi cynnig gyrru os yw’r teithwyr yn fodlon gwneud rhodd. Rwy’n benderfynol tu hwnt, sydd wedi bod o gymorth yn fy ngyrfa ac wrth frwydro yn erbyn fy nghyflogwyr, ac rwy’n berson cryf iawn, felly unwaith rwy’n penderfynu gwneud rhywbeth, rwy’n siŵr o’i wneud!

Beth yw barn eich teulu a’ch ffrindiau am yr her?

Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn. Maen nhw’n gwybod am fy holl brofiadau â’r salwch a’r achos llys, a faint o gymorth ces i gan Macmillan, ac yn sgil hynny, pa mor bwysig yw’r codi arian i mi. Maen nhw’n gwybod faint dwi’n ei yfed hefyd, ac yn deall bod hwn yn her anodd iawn i fi.

Ydych chi’n teimlo’n iachach o beidio ag yfed?

Ydw. Mi gymerodd tua 10 diwrnod i’r alcohol adael fy system, ac erbyn hyn rwy’n teimlo’n llawer gwell. Mae fy mhen yn glir ac mae gen i fwy o egni.

Ydych chi’n credu bydd cymryd rhan yn ymgyrch Go Sober yn newid eich arferion yfed yn barhaol?

Ydw – rwy’n gobeithio medru yfed yn gymdeithasol ac ar benwythnosau mewn modd cymedrol, nid bob nos fel o’r blaen.

Am wybodaeth bellach ar ymgyrch Go Sober neu i gofrestru, ewch i’r wefan

Gallwch noddi Cathy yma: https://www.gosober.org.uk/users/cathy-simms

Am wybodaeth neu gefnogaeth gan Macmillan, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 0 (Llun – Gwener, 9.00a.m.-8p.m) neu ewch i wefan www.macmillan.org.uk.

Jo Attfield: Why I’m walking the Gower Macmarathon in memory of Bethan

This Saturday 17 September will see hundreds of Macmillan supporters taking part in the Gower Macmarathon – a scenic walk of either 22, 14 or two miles across the beautiful beaches of the Gower Peninsular.

Last year, the event raised an incredible £174,000 – enough to fund a Macmillan nurse for over three years.

This year’s walk looks set to be just as successful with 1,189 walkers signed up and tens of thousands of pounds already raised in sponsorship.

One of those taking part is Jo Attfield, a lecturer from Sketty in Swansea.

She is walking the 14-mile route in memory of her daughter Bethan, who died 10 years ago this month of leukaemia, aged just five.

photo-of-bethan

Jo Attfield is running in memory of Bethan

As Jo explains, “Bethan was diagnosed at the beginning of September when she was just about to start year one (at school). She died quite quickly, not responding properly to treatment, three and a half weeks later.

“We had another daughter, a baby, Rosie, at the time who is now 10 years old. She grew up without her sister but has a seven year old brother Gruff, who never knew Bethan.

“The anniversary of her death is always a hard time of the year. The pain of her loss doesn’t go away, though we live happily enough alongside it.”

Jo will be joined on the route by three friends, Rachel and Linda, a couple from Cardiff, and her walking buddy Kate from Swansea.

Jo says, “It is lovely to raise money in remembrance of Bethan and people have very kindly remembered her on my Just Giving page.

“It is so important for us for her to be talked about and remembered.”

Kathryn Morgan, South West Wales Area Fundraising Manager for Macmillan Cancer Support, said, “The whole Macmillan team were deeply moved when we heard that Jo was taking part in the Gower Macmarathon in memory of Bethan.

“The pain of losing a child will never go away, but we are full of admiration that Jo is continuing to keep her memory alive by taking part in events such as this one to help raise money for other cancer patients.

“We would like to wish Jo all the best for the Gower Macmarathon on Saturday and extend our thanks to her, and all the other walkers taking part, for their incredible fundraising efforts for Macmillan.

“Events such as this are vital in supporting the work we do in Wales, such as funding Macmillan professionals to support people affected by cancer, our information centres in some of Wales’s hospitals, as well as campaigning for better cancer care for patients.”

You can sponsor Jo here, or send her a message of support in the comments below or on our Facebook page.

Are you taking part in a fundraising event for Macmillan? We’d love to hear your story. Tweet us @MacmillanCymru or visit our Facebook page at https://www.facebook.com/macmillan.cymruwales/

Jo Attfield: Pam rwyf yn cerdded Macmarathon Gŵyr er cof am Bethan

Dydd Sadwrn 17 Medi, bydd cannoedd o gefnogwyr Macmillan yn cymryd rhan ym Macmarathon Gŵyr – taith gerdded odidog o 22, 14 neu ddwy filltir ar draws traethau prydferth Penrhyn Gŵyr.

Y llynedd, cododd y digwyddiad £174,000 anhygoel – digon i ariannu nyrs Macmillan am dros dair blynedd.

Mae’r daith gerdded eleni’n argoeli i fod yr un mor llwyddiannus gyda 1189 o gerddwyr wedi cofrestru a degau o filoedd o bunnoedd eisoes wedi eu codi mewn nawdd.

Un o’r rheiny sydd yn cymryd rhan yw Jo Attfield, athrawes o Sgeti yn Abertawe.

Mae hi’n cerdded 14 milltir er cof am ei merch, Bethan, a fu farw 10 mlynedd yn ôl i’r mis yma o lewcemia a hithau ond yn bump oed.

Mae Jo yn esbonio, “Cafodd Bethan ddiagnosis ar ddechrau Medi pan oedd ar fin dechrau blwyddyn un (yn yr ysgol). Bu farw’n gyflym – nid oedd yn ymateb yn iawn i’r driniaeth – dair wythnos a hanner yn ddiweddarach.

photo-of-bethan

Bethan

“Roedd gennym ferch arall, Rosie, oedd yn fabi ar y pryd ac sydd bellach yn 10 oed. Mae hi wedi cael ei magu heb ei chwaer ond mae ganddi frawd saith oed, Gruff, na wnaeth adnabod Bethan erioed.

“Mae pen-blwydd ei marwolaeth bob amser yn gyfnod anodd o’r flwyddyn. Nid yw poen ei marwolaeth byth yn mynd i ffwrdd, er ein bod yn byw’n ddigon hapus ar y cyd â hynny.

Bydd tri ffrind yn ymuno â Jo ar y daith, sef Rachel a Linda, cwpwl o Gaerdydd, a’i chyfaill cerdded, Kate, o Abertawe.

Dywed Jo, “Mae codi arian i gofio am Bethan yn hyfryd ac mae pobl, yn garedig iawn, wedi cofio amdani ar fy nhudalen Just Giving.

“Mae mor bwysig i ni bod pobl yn siarad amdani ac yn ei chofio.”

Dywedodd Kathryn Morgan, Rheolwr Codi Arian Ardal De Orllewin Cymru ar gyfer Cymorth Canser Macmillan, “Cafodd tîm cyfan Macmillan eu cyffwrdd pan glywsant fod Jo yn cymryd rhan yn Macmarathon Gŵyr er cof am Bethan.

“Nid yw’r boen o golli plentyn byth yn mynd i ffwrdd, ond rydym yn llawn edmygedd bod Jo yn parhau i gadw’r cof amdani’n fyw trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn i godi arian ar gyfer cleifion canser eraill.

“Hoffem ddymuno’n dda i Jo yn Macmarathon Gŵyr Dydd Sadwrn ac rydym yn diolch o waelod calon iddi hi, a’r holl gerddwyr eraill sydd yn cymryd rhan, am eu hymdrechion anhygoel yn codi arian i Macmillan.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru, fel ariannu gweithwyr proffesiynol Macmillan i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser, ein canolfannau gwybodaeth yn rhai o ysbytai Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros ofal canser gwell ar gyfer cleifion.”

Gallwch noddi Jo yma, neu anfon neges ati i’w chefnogi isod neu ar ein tudalen Facebook.

Ydych chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Macmillan? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich stori. Gallwch drydar @MacmillanCymru neu fynd i’n tudalen Facebook yn https://www.facebook.com/macmillan.cymruwales/