Category Archives: Information and support

Q & A with Macmillan volunteer Paula Randell

Volunteer Paula Randell is the driving force behind the new Presteigne Macmillan drop-in sessions. We asked Paula to tell us about her hopes for the drop-in sessions.

drop in final english

Where and when are the drop-in sessions?

The Presteigne Macmillan drop-in sessions are held at Presteigne Assembly Rooms, Broad Street, Presteigne, Powys, LD8 2AD,

Our very First one to be held on Monday 8th May 2017 then every second Monday of the month after that.

They run from 9am to 11am.

What can people expect when they come to the Presteigne drop-in sessions?

People attending the drop-in session should expect to be greeted with a friendly face and welcomed into a safe, warm environment. Someone will be ready to listen to any questions or concerns and a chance to have a cuppa and meet others in similar situations.

Why did you set it up the drop-in sessions?

I set up this drop-in session because I think there is a big hole in communication between diagnosis and treatment which needs filling, especially in our area on the border.

What do you think are the challenges for people living in rural Wales to accessing cancer information and support?

Living on the border is difficult because everyone gets diagnosed in Hereford or out of Wales. This leads to patients being sent home with a diagnosis without their doctor knowing at times, and not being aware of support available in Wales, as they were diagnosed somewhere else – leaving people feeling lost.

You are a very active fundraiser for Macmillan, tell us some of the activities that you have been involved with?

I started by doing the World’s Biggest Coffee Mornings, I was so impressed with how the event was organised. Then after a few years and with the Macmillan family being so friendly, I started to review hospital booklets at home.

Then I saw the Brave to Shave campaign and I thought !I can do that!” – and so I did! The support and reaction locally was amazing, I found I was helping people in a whole new way. I have recently done the new Murder Mystery night which was brilliant fun.

I found that people have started to seek me out for information so thought I’d make it easier with a regular drop in session.

Any future fundraising plans?

My future plans are to be open minded and just see what catches my eye next, though I am attending the volunteers conference soon so there will be loads of ideas coming up.

You are a great supporter of Macmillan Cymru Wales.  What is your cancer experience?

My cancer experience is probably pretty average. My grandparents had cancer, and my old friend in school lost her dad, but personally I wasn’t necessary directly effected until after I started volunteering.

Since then I have got close to many people with cancer, including my father in law and a great friend, Mick. I’m very sorry we lost both of these amazing people at the end of last year.

But this all fuels my energy to do more!

Thanks to Paula for chatting with us. Good luck with the drop-in sessions!

If you’re seeking information about cancer or just want a chat, pop in and say hello, then please come to the Macmillan Presteign drop-in sessions.  There is a wide range of leaflets offering practical information and support and it’s also a great opportunity to find out how you can support local fundraising for Macmillan Cancer Support

If Paula has inspired you to volunteer for Macmillan, find out more on our website: https://volunteering.macmillan.org.uk

If you have any questions about cancer talk to our Support Line on 0808 808 0000 (open Monday to Friday 9am to 8pm) or visit our website www.macmillan.org.uk for information and support.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Paula Randell

Y wirfoddolwraig, Paula Randell, yw’r grym y tu ôl i sesiynau galw heibio newydd

Macmillan Llanandras. Gofynasom i Paula ddweud mwy wrthym am ei gobeithion ar gyfer y sesiynau rheolaidd.

Welsh final

Ble a phryd mae’r sesiynau galw heibio?

Cynhelir sesiynau galw heibio Macmillan yn Ystafelloedd Ymgynnull Llanandras, Y Stryd Fawr, Llanandras, Powys, LD8 2AD,

Cynhelir y sesiwn Gyntaf ar ddydd Llun 8 Mai 2017 ac yna bob ail ddydd Llun y Mis wedi hynny.

Fe’u cynhelir o 9am i 11am.

Beth gall bobl ei ddisgwyl pan fyddant yn dod i sesiynau galw heibio Llanandras?

Dylai pobl sy’n mynychu’r sesiwn galw heibio ddisgwyl cael eu cyfarch gan wyneb cyfeillgar a’u croesawu i amgylchedd cynnes a diogel. Bydd rhywun yn barod i wrando ar unrhyw gwestiynau neu bryderon a bydd cyfle am baned ac i gyfarfod â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Pam wnaethoch chi sefydlu’r sesiwn galw heibio?

Sefydlais y sesiwn galw heibio yma am fy mod yn credu bod bwlch mawr o ran cyfathrebu rhwng diagnosis a thriniaeth ac mae angen ei lenwi, yn arbennig yn ein hardal ni ar y ffin.

Mae byw ar y ffin yn anodd am fod pawb yn cael diagnosis yn Henffordd, sydd y tu allan i Gymru. Mae hyn yn arwain at gleifion yn cael eu hanfon adref heb i’w meddyg wybod ar adegau, a heb fod yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru, am iddynt gael diagnosis rywle arall – sydd yn gadael pobl yn teimlo ar goll.

Rydych yn flaenllaw iawn yn codi arian ar gyfer Macmillan. Dywedwch wrthym am rai o’r gweithgareddau yr ydych wedi bod yn rhan ohonynt?

WP_000342

Paula Randell

Dechreuais drwy wneud Boreau Coffi Mwya’r Byd. Roedd y digwyddiad yn cael ei drefnu’n rhagorol. Yna, ar ôl ychydig flynyddoedd, a chan fod teulu Macmillan mor gyfeillgar, dechreuais adolygu llyfrynnau ysbyty gartref.

Yna gwelais ymgyrch Brave to Shave a meddyliais ‘alla i wneud hynny’ a dyna wnes i. Roedd y gefnogaeth a’r ymateb yn lleol yn anhygoel. Canfyddais fy mod yn helpu pobl mewn ffordd hollol newydd. Yn ddiweddar, gwnes i’r noson Dirgelwch Llofruddiaeth newydd oedd yn llawer o hwyl.

Canfyddais fod pobl wedi dechrau chwilio amdanaf am wybodaeth felly roeddwn yn credu y byddai’n haws gyda sesiwn galw heibio reolaidd.

Unrhyw gynlluniau i godi arian yn y dyfodol?

Mae fy nghynlluniau i’r dyfodol yn benagored ac rwy’n aros i weld beth fydd yn dal fy llygaid nesaf, er fy mod yn mynychu’r gynhadledd i wirfoddolwyr cyn bo hir felly bydd llawer iawn o syniadau yn dod i’r amlwg.

Rydych yn gefnogwr gwych i Macmillan Cymru. Beth yw eich profiad o ganser?

Mae fy mhrofiad o ganser yn eithaf arferol siŵr o fod. Cafodd fy mam-gu a fy nhad-cu ganser, a chollodd fy hen ffrind ysgol ei thad, ond yn bersonol ni chefais fy effeithio’n uniongyrchol nes i mi ddechrau gwirfoddoli.

Ers hynny, rwyf wedi dod yn agos at lawer o bobl â chanser, yn cynnwys fy nhad yng nghyfraith a ffrind agos, Mick. Rwy’n flin iawn i ddweud i ni golli’r ddau berson anhygoel y llynedd.

Ond mae hyn yn fy ysgogi i wneud mwy!

Os ydych yn chwilio am wybodaeth am ganser neu eisiau sgwrs neu alw heibio i ddweud helo, yna dewch i sesiynau galw heibio Macmillan Llanandras. Mae ystod eang o daflenni ar gael yn rhoi gwybodaeth a chymorth ymarferol ac mae hefyd yn gyfle gwych i ganfod sut y gallwch gefnogi gwaith codi arian lleol ar gyfer Cymorth Canser Macmillan.

Os yw Paula wedi eich ysbrydoli i wirfoddoli ar gyfer Macmillan, gallwch ganfod mwy ar ein gwefan: https://volunteering.macmillan.org.uk/

Am wybodaeth neu gefnogaeth gan Macmillan, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 0 (Llun – Gwener, 9.00a.m.-8p.m) neu ewch i wefan www.macmillan.org.uk.

Dylunydd Gerddi Sarah Wilson ar greu man ‘hamddenol a myfyriol’ i Macmillan

Y Dylunydd Gerddi, Sarah Wilson, yw’r gallu creadigol y tu ôl i Ardd Gymynroddion Macmillan.  Fe wnaethom ofyn i Sarah ddweud ychydig wrthym am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i ddyluniad ei gardd a heriau ymarferol adeiladu gardd arddangos.

Dylunydd Gerddi, Sarah Wilson

Dylunydd Gerddi, Sarah Wilson

Gallwch ymweld â Gardd Gymynroddion Macmillan yn Sioe Flodau RHS Caerdydd rhwng Dydd Gwener 7 a Dydd Sul 9 Ebrill 2017.

Beth yw heriau dylunio gardd ar gyfer Cymorth Canser Macmillan?

Mae’r heriau yr un peth i bob gardd arddangos; cyflwyno gardd brydferth ar amser ac o fewn y gyllideb!

Ond gyda’r Ardd Gymynroddion, roedd yn hanfodol fy mod yn bodloni’r cyfarwyddyd o greu gardd sy’n cysylltu’n ôl i gysyniad canolog Cymynroddion.

Cymerodd amser i ganfod sut y gellid archwilio’r thema trwy bob agwedd ar yr ardd ond rwy’n teimlo’n hapus y bydd ymwelwyr â’r ardd yn gallu cysylltu’r ardd â’r cysyniad a bydd yn annog pobl, gobeithio, i feddwl am eu cymynroddion eu hunain.

Beth ydych eisiau i bobl deimlo pan fyddant yn dod i’r ardd?

Quote - The true meaning of life is to plant trees, under show shade you do not expect to sit.

Dyluniais yr ardd i fod yn ofod hamddenol a myfyriol. Mae’r dyfyniad sy’n mynd i’r afael â’r syniad o’r hyn yr ydych yn ei adael ar ôl unwaith y byddwch wedi mynd yn ganolog i’r ardd a thrwy ei ddarllen, gobeithio bydd pobl yn cymryd eiliad i ystyried yr ystyr y tu ôl i’r dyfyniad.

Macmillan-Legacy-Garden-1088-x-612

Dyluniad Sarah Wilson o’r ardd. Mae’r ardd yn cysylltu â’r cysyniad o gymynroddion.

Dywedwch ychydig wrthym am y cerflun sydd yng nghanol yr ardd?

Y cerflun yw’r nodwedd ganolog gyda gweddill yr ardd yn treiddio ohono. Mae’r dyfyniad wedi ei argraffu o amgylch y cerflun ac er mwyn adlewyrchu’r teimlad yn y dyfyniad, mae’r ardd yn llythrennol yn ymestyn o’r fan hon mewn cylchoedd i gyfleu effaith crychau. Mae’r crychau’n cynrychioli canlyniadau pellgyrhaeddol gweithredoedd y presennol sydd yn bodoli hyd yn oed pan na fydd person yma bellach.

Beth mae creu gardd ar gyfer Sioe Flodau RHS yng Nghaerdydd yn ei olygu? Pwy arall sydd yn gysylltiedig?

Caiff yr ardd ei chreu gan dîm cyfan o bobl gan ddechrau gyda’r rheiny ym Macmillan a wnaeth yr holl beth yn bosibl. Bydd fy nhirlunwyr gweithgar, Smartscape, yn adeiladu’r ardd ac mae gennyf ystod o feithrinfeydd rhagorol fydd yn darparu planhigion.

Mae’r deunyddiau wedi cael eu rhoi yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Selco a Kinley Systems yn y drefn honno a rhoddwyd y fainc trwy garedigrwydd The Garden Furniture Centre.

Heb waith caled a charedigrwydd y cwmnïau hyn, ni fyddai’r ardd wedi cael ei chreu felly rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd yn gysylltiedig.

Faint o amser fydd hi’n cymryd i osod Gardd Gymynroddion Macmillan?

Bydd yr ardd yn cymryd tua naw diwrnod i’w chwblhau.

Dywedwch rywbeth wrthym am y ffordd y gwnaethoch ddechrau dylunio gerddi?

Dechreuais ddylunio gerddi ar ôl newid gyrfa i arddwriaeth tua wyth mlynedd yn ôl. Roeddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn gofalu am erddi yr oedd pobl eraill wedi eu dylunio a phenderfynais y byddwn yn hoffi dylunio mannau fy hun. Fy nod yw creu gerddi sy’n gweithio i bobl lle gall eu syniadau ddod yn fyw.

A oes gennych unrhyw gysylltiadau â Chymru?

Treuliais wythnos anhygoel mewn lle o’r enw Stout Hall ar Benrhyn Gŵyr pan oeddwn yn yr ysgol. Aethom ar deithiau o amgylch yr ardal a threulio amser yn yr awyr agored a syrthiais mewn cariad â Chymru o ganlyniad i hynny.

Gallwch ganfod mwy am Ardd Gymynroddion Macmillan ar wefan Sioe Flodau RHS Caerdydd.

Mae rhoddion mewn ewyllys yn ffordd anhygoel o barhau i gefnogi Macmillan i’r dyfodol.  Os hoffech wybod mwy ewch i’n gwefan.

“the financial impact of cancer is massive”

Meinir Siencyn was just 35 when she was diagnosed with breast cancer.

Today, as we publish our No Small Change report, Meinir explains the huge financial impact that cancer can have on people’s lives.

Hearing the news

I was in New Zealand when I first found a lump.

We were in our little van.  My partner and I love extreme sports and we were having a great time just travelling around, trying everything.

I was diagnosed with breast cancer on my return to the UK.

I was 35, fit, healthy and fresh from my travels.  The shock of hearing that I had breast cancer stopped me in my tracks.

Time off workmeinirname

In trying to come to terms with my diagnosis, my finances were one of the very first things I worried about.

I knew I would face months of chemotherapy followed by surgery and radiotherapy.

Straight away I found myself panicking, and thinking ‘oh my God, I can’t work’.

As a freelance camera-woman the kit I carry around is huge, the hours are long and the travel is constant.  I knew early on that I simply couldn’t keep up with the physical demands of the job.

Eventually I had to cancel the contracts I had worked so hard to line up, and I ended up taking almost a year off work with my treatment and recovery.

I lost my source of income.

Money worries

Money might not be the first thing to come to mind when people think about cancer, but the impact my illness had on my finances was massive.

When you are living with cancer, there are still mortgage payments to be met, food and clothing to buy, cars to keep on the road and gas or electricity bills to pay.

At one point, the stress and anxiety caused by the financial side of things seemed to outweigh even the worry about cancer itself.

You have pounds-and-pence constantly playing on your mind at a time when you already feel mentally and physically exhausted from your treatment.

There is nothing worse than trying to work out how you are going to keep a roof over your head, or afford to get to your next treatment, at the same time you are coming to terms with your illness.

Finding support

My friends and family were lifesavers.  My mother helped with my mortgage payments. Friends brought round food and care parcels.  I don’t know what I would have done without them.

I also received support from Macmillan.

Through their information and support centre which was based where I received my treatment, I was referred to Macmillan’s welfare and benefits advice service.

It immediately helped relieve some of the pressure. I was even given a grant which I used to insure my partner Emyr on my car so he could drive me to my hospital appointments.

Macmillan also helped me apply for Employment Support Allowance. I received £200 every two weeks which helped make a welcome dent in my outgoings.

The fact is there is no good time to receive a cancer diagnosis. Nothing could be more unwelcome, or less easy to predict.

At 35 I simply hadn’t budgeted for losing my ability to work.

Even now, years after my diagnosis and treatment, I’m working crazy hours to rebuild my finances.

Advice

For anyone with by cancer, I would tell them to seek financial advice as soon as they can.

There is support available through Macmillan. They can help take some of pressure off and allow you to focus on your recovery.

To find out more visit macmillan.org.uk/moneyworries.

“Mae effaith ariannol canser yn aruthrol”

Dim ond 35 oed oedd Meinir Siencyn pan gafodd hi ddiagnosis o ganser y fron.

Heddiw, wrth i ni gyhoeddi ein hadroddiad No Small Change, mae Meinir yn egluro’r effaith ariannol syfrdanol y gall canser ei gael ar fywydau pobl.

Clywed y newyddion

Yn Seland Newydd oeddwn i pan ddes i o hyd i’r lwmp y tro cyntaf.

Ro’n ni yn ein fan fach. Mae fy mhartner a fi wrth ein boddau efo chwaraeon eithafol, a ro’n ni’n cael amser gwych yn teithio o gwmpas ac yn rhoi cynnig ar bob dim.

Mi ges i ddiagnosis o ganser y fron (breast cancer) pan ddois i adre.

Ro’n i’n 35 oed, yn ffit, yn iach a newydd ddychwelyd o deithio’r byd. Roedd clywed bod gen i ganser y fron yn andros o sioc.

Amser i ffwrdd o’r gwaithmeinirname

Wrth i mi geisio dod i delerau â’r diagnosis, fy sefyllfa ariannol oedd un o’r pryderon cyntaf a ddaeth i’r meddwl.

Mi wyddwn i y buaswn i’n wynebu misoedd o gemotherapi cyn cael llawdriniaeth ac yna radiotherapi.

Mi es i banig ar unwaith, gan feddwl ‘O na, fedra i ddim gweithio.’

Mae’r offer dwi’n ei gario fel gwraig gamera lawrydd yn llwyth trwm, ac mae’r teithio’n ddi-ball. Mi sylweddolais i’n fuan iawn na fyddwn i’n medru ymdopi ag agweddau corfforol y gwaith.

Yn y diwedd, bu’n rhaid i mi ganslo’r cytundebau ro’n i wedi gweithio mor galed i’w trefnu, ac mi fues i’n absennol o’r gwaith am yn agos at flwyddyn rhwng y driniaeth a’r cyfnod o wella.

Mi gollais i ffynhonnell fy incwm.

Pryderon ariannol

Efallai nad pres ydy’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fod pobl yn meddwl am ganser, ond mi gafod y salwch effaith aruthrol ar fy sefyllfa ariannol.

Pan rydych chi’n byw gyda chanser, mae dal angen talu’r morgais, prynu bwyd a dillad, cadw car ar yr heol a thalu biliau nwy a thrydan.

Ar un adeg, roedd y straen a’r pryder o boeni am y sefyllfa ariannol yn fwy na’r pryder am y canser ei hun, hyd yn oed.

Mae pob dime goch yn chwarae ar eich meddwl o hyd, yn yr union gyfnod pan rydych chi wedi blino’n lân yn gorfforol ac yn feddyliol yn sgil y driniaeth.

Does dim byd yn waeth na cheisio rhagweld sut rydych chi’n mynd i gadw to uwch eich pen, neu fforddio cyrraedd eich sesiwn driniaeth nesaf, a hynny wrth i chi geisio dod i delerau â’ch salwch yr un pryd.

Dod o hyd i gefnogaeth

Roedd fy nheulu a fy ffrindiau’n werth y byd. Mi helpodd fy mam i dalu’r morgais. Roedd ffrindiau’n dod heibio efo parselau bwyd a gofal i mi.

Mi ges i gefnogaeth gan Macmillan hefyd.

Drwy eu canolfan gwybodaeth a chefnogaeth yn y man lle’r o’n i’n cael fy nhriniaeth, mi ges i fy nghyfeirio at wasanaeth cyngor budd-daliadau a lles Macmillan.

Roedd yn help i leddfu’r baich ar unwaith. Mi dderbyniais i grant, ac mi ddefnyddiais hwnnw i yswirio Emyr, fy mhartner, i yrru fy nghar er mwyn iddo fedru mynd â fi i fy apwyntiadau yn yr ysbyty.

Mi helpodd Macmillan fi i wneud cais am Lwfans Cefnogi Cyflogaeth. Fues i’n derbyn £200 yr wythnos, oedd yn andros o help efo’r gwariant oedd yn mynd allan.

Y ffaith amdani ydy nad oes amser da i dderbyn diagnosis o ganser. Does dim byd yn fwy annymunol, nac yn fwy anodd ei ragweld.

Yn 35 oed, do’n i ddim wedi hyd yn oed wedi ystyried y gallwn i golli’r gallu i weithio.

Hyd yn oed heddiw, flynyddoedd ar ôl y diagnosis a’r driniaeth, dwi’n gweithio oriau gwirion i ailosod seiliau cadarn i fy sefyllfa ariannol.

Cyngor

Mi fuaswn i’n cynghori unrhyw un sydd â chanser i ofyn am gyngor ariannol cyn gynted ag y gallan nhw.

Mae ’na gefnogaeth ar gael drwy Macmillan. Mi allan nhw leddfu’r pwysau sydd arnoch chi, a gadael i chi ganolbwyntio ar eich gwellhad.

Am wybodaeth bellach, ewch i macmillan.org.uk/moneyworries.

 

 

“the biggest help is often found in the simplest and smallest of actions”

When Gale Kidman from Mountain Ash was diagnosed with a rare breast cancer in 2012, she began a difficult journey of treatment and recovery. 

 Today, on World Cancer Day, she talks about the importance of friendship and finding support.

gail-amend-2

On receiving a cancer diagnosis

Even from the earliest stages, when all I had was a feeling that something was very wrong, friendship has been hugely important.

I had gone from being a confident, fit, healthy and energetic woman to becoming more and more fatigued.  Just getting up for work was a struggle.

It was my good friend who, becoming increasingly concerned, pestered me to go back to the doctor even though all my tests were telling me I was fit and well.

When I received my diagnosis, my world fell apart.  The lump in my breast was bigger than expected, the word ‘chemo’ hit like a sledge hammer and I had the terrifying realisation that ‘this is really happening to me’.

You suddenly feel like you are alone.  Isolated by this illness that no-one else really seems to understand.

On friendship

At the time of my diagnosis I lived on my own.  Receiving my diagnosis was instantly isolating – even trying to find the right words to explain my cancer to my family and friends was difficult.

Looking back, I realise I was so used to being this independent and capable woman that I found it very difficult to ask for, or to accept an offer of help.

I was so used to being strong, for me and my family that it was very difficult to let this part of my identity go.

But I moved in with an old close friend for a few weeks at the start of my treatment. Her support was just what I needed, and we laughed and cried together.

I’m really not really sure how I would have managed without the support of friends, both old and new.

On finding support

During my treatment, I was off work for over a year.

What surprised me was how difficult some people found it to offer support.  It was as if talking to me about my cancer was so hard that it was easier to say nothing at all.

Friends and support systems did fall away.  People struggled to be consistent in being around, to find the right thing to say or to know the right thing to do.

This in itself was isolating.  I’d had a busy career and losing contact with that, as well as other social networks, all had a real impact on me and my sense of loneliness.

For anyone who knows someone with cancer I would say that the biggest sources of help will often be found in the smallest and simplest of everyday actions.

It’s a letter or a quick text to let the person know you are thinking of them.  It’s an offer to cook a dinner, do some housework or go to the shops – everyday acts of help and kindness that will ease the pressure and offer some company.

On Macmillan

One of my greatest sources of support was the Macmillan online community.

For me, I hated not knowing what to expect.  I wanted to know what was coming next in my treatment and how it might affect me.  It’s all about preparing yourself.

It was at these moments that Macmillan’s online community proved to be a great source of friendship, information and emotional support.

As anyone who has had cancer will tell you, every experience is different.  We all react, both mentally and physically, in highly individual ways.

Yet when I was stuck at home, with the four walls closing in around me, it was Macmillan’s online community that I turned to.

It was here I found the support I so desperately needed, simply by talking to others who were going through the same experiences as me.

To people with cancer I would say, don’t be afraid to ask for help.  The support and the friendship you need is out there.

Please just visit Macmillan’s online community, or call Macmillan’s Support Line on 0808 808 00 00.

“mae’r cymorth mwyaf i’w ganfod yn aml yn y gweithredoedd bach, syml”

Pan gafodd Gale Kidman o Aberpennar ddiagnosis o ganser y fron prin yn 2012, dechreuodd ar daith anodd o driniaeth ac adferiad. 

Heddiw, ar Ddiwrnod Canser y Byd, mae’n siarad am bwysigrwydd cyfeillgarwch a dod o hyd i gymorth.

gail-amend-2

Ar gael diagnosis o ganser

Hyd yn oed yn y cyfnodau cynnar, pan dim ond teimlad oedd gen i fod rhywbeth mawr o’i le, mae cyfeillgarwch wedi bod yn hynod o bwysig.

Roeddwn wedi mynd o fod yn fenyw heini, iach ac egnïol i fod yn fwy a mwy blinedig.  Roedd codi i fynd i’r gwaith yn frwydr.

Ffrind da i mi, oedd yn dechrau poeni, wnaeth ddwyn perswâd arnaf i fynd yn ôl at y meddyg er bod yr holl brofion yn dweud fy mod yn iach.

Pan gefais y diagnosis, cwympodd fy myd yn ddarnau.  Roedd y lwmpyn yn fy mron yn fwy na’r disgwyl.  Roedd y gair ‘chemo’ fel ergyd fawr a sylweddolais gyda braw fod ‘hyn yn digwydd i mi go iawn’.

Rydych yn teimlo eich bod ar ben eich hun yn sydyn.  Wedi eich ynysu gan y salwch hwn nad oes unrhyw un arall yn ei ddeall.

Ar gyfeillgarwch

Ar adeg y diagnosis roeddwn yn byw ar fy mhen fy hun.  Roedd cael diagnosis yn fy ynysu yn syth – roedd hyd yn oed ceisio dod o hyd i’r geiriau iawn i esbonio fy nghanser i’r teulu yn anodd.

Wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli fy mod wedi arfer bod yn fenyw annibynnol, abl ac yn cael anhawster yn gofyn, neu’n derbyn, cynnig o gymorth.

Roeddwn wedi arfer bod mor gryf i mi a’m teulu fel ei fod yn anodd iawn gadael y rhan hon o’m hunaniaeth i fynd.

Ond symudais i fyw gyda hen ffrind agos am ychydig wythnosau ar ddechrau fy nhriniaeth. Ei chefnogaeth hi oedd yr hyn oedd ei angen arnaf, ac fe wnaethom chwerthin a chrio gyda’n gilydd.

Nid wyf yn siŵr sut y byddwn wedi ymdopi heb gymorth ffrindiau, hen a newydd.

Ar ddod o hyd i gymorth

Yn ystod fy nhriniaeth, roeddwn i ffwrdd o’r gwaith am fwy na blwyddyn.

Yr hyn wnaeth fy synnu oedd pa mor anodd oedd hi i rai pobl gynnig cymorth.  Roedd fel pe bai siarad am fy nghanser mor anodd ei fod yn haws dweud dim o gwbl.

Fe wnaeth ffrindiau a systemau cymorth leihau.  Roedd pobl yn cael anhawster yn bod yn gyson o ran bod o gwmpas, dweud y peth iawn neu wybod beth oedd y peth iawn i’w wneud.

Roedd hyn ynddo’i hun yn ynysu.  Roedd gennyf yrfa brysur ac fe wnaeth colli cysylltiad â hynny, yn ogystal â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, i gyd gael effaith sylweddol arnaf i a’m hunigrwydd.

I unrhyw un sydd yn adnabod rhywun â chanser, y cymorth mwyaf yn aml yw’r gweithredoedd bach syml o ddydd i ddydd.

Llythyr neu neges destun cyflym i roi gwybod i’r person eich bod yn meddwl amdanynt.  Cynnig gwneud swper, neu waith tŷ neu fynd i’r siop – gweithredoedd o gymorth a charedigrwydd o ddydd i ddydd fydd yn lleddfu’r pwysau ac yn cynnig rhywfaint o gwmni.

Ar Macmillan

Un o’r ffynonellau cymorth mwyaf oedd cymuned ar-lein Macmillan.

I mi, roedd yn gas gennyf beidio gwybod beth i’w ddisgwyl.  Roeddwn eisiau gwybod beth oedd yn dod nesaf gyda fy nhriniaeth a sut y gallai effeithio arnaf.  Mae’n ymwneud â pharatoi eich hun.

Ar yr adegau hyn y rhoddodd gymuned ar-lein Macmillan garedigrwydd, gwybodaeth a chymorth emosiynol rhagorol.

Fel y bydd unrhyw un sydd wedi cael canser yn dweud wrthych, mae pob profiad yn wahanol.  Rydym i gyd yn ymateb, yn feddyliol ac yn gorfforol, mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Ond pan oeddwn gartref, gyda’r pedair wal yn cau amdanaf, fe wnes i droi at gymuned ar-lein Macmillan.

Dyma’r lle y cefais y cymorth oedd ei angen arnaf gymaint, trwy siarad ag eraill oedd yn mynd trwy’r un profiadau â mi.  Byddwn yn dweud wrth bobl â chanser, peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth.  Mae’r cymorth a’r cyfeillgarwch sydd ei angen arnoch ar gael.

Ewch i gymuned ar-lein Macmillan neu ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00.

Taking Cancer Services Health and Well-being advice to into the community

Michelle Lloyd, is the Macmillan Person Centred Care Project Manager with Cwm Taf University Health Board. In her blog, Michelle writes about the importance of holding health and wellbeing events out of the clinical setting and in the community.

We often talk about the importance of delivering care closer to home (where appropriate to do so!). I think the same is true about how we engage with our local community – we need to be out there providing advice and support in ways which are easy for our community to access. So where better a place to go than the Tonyrefail Workingmen’s Club in Porth?

 

michelle_lloyd-cropped-lightened

Michelle Lloyd

On Friday 4 November, the Workingmen’s Club proved to be an ideal venue for us to meet with our cancer patients, their relatives and carers. The aim of the event was to provide health and well-being advice to people living with cancer and ensure that they are receiving the best possible care according to their needs.

During the three hours we spent there, we managed to speak with patients, relatives and carers, providing much needed signposting to information and other support networks. In total, 46 people signed in to the event and for some, it was a great opportunity to find out about things like the National Exercise Referral Scheme or the Macmillan Activity Programme.

The overwhelming feedback from the day was simple. As one patient said, the important thing to them was “to be able to talk to someone and have advice”.

It is important that people feel well supported and are provided with good levels of information. It ensures that patients have what they need to make informed decisions about their care and to help them to become more able to self-manage their conditions.

All in all, it was a really beneficial event which allowed cancer patients to not only talk to health care professionals but to also spend time talking with other patients and their families about their own experiences.

We’ll certainly be doing more of these events in the future!

well-being-event-2000x2000

In the meantime, if you know anyone who wants someone to talk to about cancer, then call Macmillan Cancer Support free on 0808 808 00 00 or visit macmillan.org.uk

Mynd â Chyngor Iechyd a Lles Gwasanaethau Canser i’r gymuned

Michelle Lloyd yw Rheolwr Prosiect Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Macmillan gyda  Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn ei blog, mae Michelle yn ysgrifennu am bwysigrwydd cynnal digwyddiadau iechyd a lles y tu allan i’r lleoliad clinigol ac yn y gymuned.

michelle_lloyd-cropped-lightened

Michelle Lloyd

Rydyn yn aml yn sôn am bwysigrwydd cyflwyno gofal yn nes at y cartref (lle mae’n briodol gwneud hynny!). Rwy’n credu bod yr un peth yn wir am sut rydym yn ymgysylltu â’n cymuned leol – mae angen inni fod allan yno’n cynnig cymorth a chefnogaeth mewn ffyrdd sy’n hawdd i’n cymuned gael mynediad atynt. Felly, does unman gwell i fynd na Chlwb Gweithwyr Tonyrefail yn y Porth.

Ddydd Gwener, 4 Tachwedd, bu’r Clwb Gweithwyr yn lleoliad delfrydol inni gwrdd â’n cleifion canser, â’u perthnasau ac â’u gofalwyr. Nod  y digwyddiad oedd cynnig cyngor iechyd a lles i rai sy’n byw gyda chanser a sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posibl yn ôl eu hanghenion.

Yn ystod y tair awr a dreulion ni yno, llwyddon ni i siarad â chleifion, perthnasau a gofalwyr, gan gyfeirio llawer at wybodaeth ac at rwydweithiau cefnogi eraill. At ei gilydd, cofrestrodd 46 o bobl ar y digwyddiad ac i rai, roedd yn gyfle gwych i gael gwybod am bethau fel y Cynllun Cyfeirio i Ymarfer Cenedlaethol neu Raglen Gweithgareddau Macmillan.

Roedd yr adborth cyffredinol o’r diwrnod yn syml. Fel y dywedodd un claf, y peth pwysig iddo oedd “gallu siarad â rhywun a chael cyngor”.

Mae’n bwysig fod pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda a’u bod yn cael digon o wybodaeth. Mae’n sicrhau bod gan gleifion yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal ac i’w helpu i allu rheoli eu cyflyrau eu hunain yn well.

At ei gilydd, roedd yn ddigwyddiad buddiol dros ben a alluogodd cleifion canser nid yn unig i siarad â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ond hefyd i dreulio amser yn siarad â chleifion eraill a’u teuluoedd am eu profiadau nhw eu hunain.

Byddwn ni’n sicr yn gwneud rhagor o’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol!

well-being-event-2000x2000

Yn y cyfamser, os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd eisiau rhywun i siarad ag ef/hi am ganser, yna ffoniwch Cymorth Canser Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00  neu ewch i macmillan.org.uk

 

Lung cancer: know the signs

CAROL DAVIES, ABERGAVENNY, 21/03/2016

November is Lung Cancer Awareness Month and Macmillan Cancer Support is encouraging people to be aware of the signs and symptoms of the disease.

Lung cancer is common in both men and women. Smoking is the main cause of lung cancer, but non-smokers get it too. About 6 in 10 people diagnosed with lung cancer in the UK are aged 70 and over.

Carol Davies, Macmillan Lung Cancer specialist nurse at Nevill Hall Hospital in Abergavenny, said: “Knowing what changes to look for and when to see your doctor could make a real difference. Don’t be scared if you have symptoms, get them checked.”

See your doctor if you have any of these symptoms:

  • A cough that lasts for three weeks or more.
  • A change in a cough you have had for a long time.
  • A chest infection that doesn’t get better, or repeated chest infections.
  • Feeling breathless for no reason.
  •  Coughing up blood.
  •  A hoarse voice that lasts for three weeks or more.
  •  Pain in your chest or shoulder that doesn’t get better.
  •  Feeling more tired than usual for some time.

Carol  added: “Most people with these symptoms do not have lung cancer, they can be caused by other things. However, if do you have symptoms, don’t ignore them, see your doctor. If you do have cancer, the sooner it’s found, the better.”

If you need support or just want someone to talk to about lung cancer, call Macmillan Cancer Support free on 0808 808 00 00 or visit macmillan.org.uk