Category Archives: Volunteering

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Paula Randell

Y wirfoddolwraig, Paula Randell, yw’r grym y tu ôl i sesiynau galw heibio newydd

Macmillan Llanandras. Gofynasom i Paula ddweud mwy wrthym am ei gobeithion ar gyfer y sesiynau rheolaidd.

Welsh final

Ble a phryd mae’r sesiynau galw heibio?

Cynhelir sesiynau galw heibio Macmillan yn Ystafelloedd Ymgynnull Llanandras, Y Stryd Fawr, Llanandras, Powys, LD8 2AD,

Cynhelir y sesiwn Gyntaf ar ddydd Llun 8 Mai 2017 ac yna bob ail ddydd Llun y Mis wedi hynny.

Fe’u cynhelir o 9am i 11am.

Beth gall bobl ei ddisgwyl pan fyddant yn dod i sesiynau galw heibio Llanandras?

Dylai pobl sy’n mynychu’r sesiwn galw heibio ddisgwyl cael eu cyfarch gan wyneb cyfeillgar a’u croesawu i amgylchedd cynnes a diogel. Bydd rhywun yn barod i wrando ar unrhyw gwestiynau neu bryderon a bydd cyfle am baned ac i gyfarfod â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Pam wnaethoch chi sefydlu’r sesiwn galw heibio?

Sefydlais y sesiwn galw heibio yma am fy mod yn credu bod bwlch mawr o ran cyfathrebu rhwng diagnosis a thriniaeth ac mae angen ei lenwi, yn arbennig yn ein hardal ni ar y ffin.

Mae byw ar y ffin yn anodd am fod pawb yn cael diagnosis yn Henffordd, sydd y tu allan i Gymru. Mae hyn yn arwain at gleifion yn cael eu hanfon adref heb i’w meddyg wybod ar adegau, a heb fod yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru, am iddynt gael diagnosis rywle arall – sydd yn gadael pobl yn teimlo ar goll.

Rydych yn flaenllaw iawn yn codi arian ar gyfer Macmillan. Dywedwch wrthym am rai o’r gweithgareddau yr ydych wedi bod yn rhan ohonynt?

WP_000342

Paula Randell

Dechreuais drwy wneud Boreau Coffi Mwya’r Byd. Roedd y digwyddiad yn cael ei drefnu’n rhagorol. Yna, ar ôl ychydig flynyddoedd, a chan fod teulu Macmillan mor gyfeillgar, dechreuais adolygu llyfrynnau ysbyty gartref.

Yna gwelais ymgyrch Brave to Shave a meddyliais ‘alla i wneud hynny’ a dyna wnes i. Roedd y gefnogaeth a’r ymateb yn lleol yn anhygoel. Canfyddais fy mod yn helpu pobl mewn ffordd hollol newydd. Yn ddiweddar, gwnes i’r noson Dirgelwch Llofruddiaeth newydd oedd yn llawer o hwyl.

Canfyddais fod pobl wedi dechrau chwilio amdanaf am wybodaeth felly roeddwn yn credu y byddai’n haws gyda sesiwn galw heibio reolaidd.

Unrhyw gynlluniau i godi arian yn y dyfodol?

Mae fy nghynlluniau i’r dyfodol yn benagored ac rwy’n aros i weld beth fydd yn dal fy llygaid nesaf, er fy mod yn mynychu’r gynhadledd i wirfoddolwyr cyn bo hir felly bydd llawer iawn o syniadau yn dod i’r amlwg.

Rydych yn gefnogwr gwych i Macmillan Cymru. Beth yw eich profiad o ganser?

Mae fy mhrofiad o ganser yn eithaf arferol siŵr o fod. Cafodd fy mam-gu a fy nhad-cu ganser, a chollodd fy hen ffrind ysgol ei thad, ond yn bersonol ni chefais fy effeithio’n uniongyrchol nes i mi ddechrau gwirfoddoli.

Ers hynny, rwyf wedi dod yn agos at lawer o bobl â chanser, yn cynnwys fy nhad yng nghyfraith a ffrind agos, Mick. Rwy’n flin iawn i ddweud i ni golli’r ddau berson anhygoel y llynedd.

Ond mae hyn yn fy ysgogi i wneud mwy!

Os ydych yn chwilio am wybodaeth am ganser neu eisiau sgwrs neu alw heibio i ddweud helo, yna dewch i sesiynau galw heibio Macmillan Llanandras. Mae ystod eang o daflenni ar gael yn rhoi gwybodaeth a chymorth ymarferol ac mae hefyd yn gyfle gwych i ganfod sut y gallwch gefnogi gwaith codi arian lleol ar gyfer Cymorth Canser Macmillan.

Os yw Paula wedi eich ysbrydoli i wirfoddoli ar gyfer Macmillan, gallwch ganfod mwy ar ein gwefan: https://volunteering.macmillan.org.uk/

Am wybodaeth neu gefnogaeth gan Macmillan, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 0 (Llun – Gwener, 9.00a.m.-8p.m) neu ewch i wefan www.macmillan.org.uk.

‘I always felt like I wanted to give something back…’

Jen Cooper was 19 years old, and at university, when she was diagnosed with Hodgkin’s
Lymphoma. After her diagnosis, Jen received help from Macmillan Cancer Support. In herblog, Jen tells why she joined her local Macmillan fundraising committee and why it is ‘hugely rewarding to be giving something back’.

Jen Cooper

Jen Cooper

What’s your cancer experience?

I was diagnosed with Hodgkin’s Lymphoma nearly 10 years ago when I was 19. I was in university at the time and had been suffering from a number of different symptoms including sickness, persistent cough, tiredness, weight loss and a rash.

I was finally referred to a specialist after developing lumps under my arm but I was displaying symptoms for over two years before I was actually diagnosed.

Being diagnosed was a massive shock but my family and friends were a fantastic support.

I moved back home while I underwent a six-month course of ABVD treatment.

When I started the treatment I actually felt better as I had become quite unwell with the symptoms I was suffering.

The treatment was successful, and a year to the date of my last chemotherapy session I ran the London marathon for Leukemia CARE.

I then had regular check-ups until Mark 2012 when I was given the ‘all clear’ and celebrated with far too much champagne!

Now I am a mostly normal adult. I do think I suffer with ‘chemo brain’ from time to time, and I don’t handle being tired very well but other than that I have no complaints.

I do worry that my illness might come back but I always tell myself that what will happen will happen and try not to worry about the things I can’t change.

Why did you decide to fundraise for Macmillan Cancer Support?

Throughout my experience of being diagnosed, treated and living beyond cancer Macmillan has always been there.

It might sound cheesy but my hospital had a Macmillan nurse who had the time to tell me what my treatment was going to be like, and reassure my parents.

I was given financial assistance for bills I was unable to pay and even now I still find the Macmillan website a hugely valuable source of information.

I always felt like I wanted to give something back to help someone in the same position.

What tempted you to join the Cardiff Capital Macmillan Fundraising Group?

In 2012, I was contacted by the local Macmillan fundraising manager who had seen an article in the local paper for a charity bike ride that I completed for Macmillan riding from Nairobi in Kenya to a wildlife reserve in Tanzania.

I met Becs (Rebecca Parke – Fundraising Manager, Cardiff and Vale) for a coffee and she explained what the group did.  I was immediately interested!

It’s been great to meet people who have also been affected by cancer, and we can do so much more together than I ever could on my own.

12074936_893520807370506_8060757797415354168_n

Tell me a bit about your committee?

I like to think that we are friendly and fun! We’re a group of professionals who meet most months to discuss anything relating to Macmillan, from holding bucket collections to organising events.

What have the highlights since you’ve joined the committee?

Since I joined we’ve organised two pub quiz nights and two comedy nights among other events.

I always find these events hugely rewarding – certainly stressful at times with organising comedians, or raffle prizes. But on the night it’s always a great buzz to see so many people who come along, have a fun evening and donate what they can to Macmillan.

You volunteer to give your free time to raise money to help people affected by cancer.  Does it take up much of your time?

Everyone within our committee works so we all know that it can be challenging to fit in a lot of fundraising around our jobs. For that reason we are really flexible and there is never any pressure on anyone to do more than they can.

We just do what we can! Some weekends I might spend four hours at a bucket collection on a Saturday morning, and then I may not be able to do another for a month. It all balances out.

Has anything surprised you about being a member of the committee?

I didn’t know what to expect when I went to my first meeting and I was really surprised by the age of the group (average is around late 20s) and also have savvy the group was. We have a Facebook page, Twitter account, email account and even a blog!

What would you say to someone who was thinking about contacting their local Macmillan Fundraising committee?

I would say give it a shot. The Committees I’ve met along the way have always been so friendly, and all focused on a common goal. It’s a great way to meet people and talk about our experiences which isn’t always so easy. I also find it hugely rewarding to be giving something back. Just a few hours at a supermarket can raise hundreds and that makes it really worthwhile.

If you would like to find out more about your local Macmillan fundraising group, search our interactive map.

 

 

‘Roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl…’

Roedd Jen Cooper yn 19 oed, ac yn y brifysgol, pan gafodd ddiagnosis Lymffoma Hodgkin. Ar ôl ei diagnosis, cafodd Jen help gan Gymorth Canser Macmillan. Yn ei blog, mae Jen yn dweud pam ymunodd hi â’i phwyllgor codi arian Macmillan lleol a pham mae “rhoi rhywbeth yn ôl yn rhoi cymaint o foddhad”.

Jen Cooper

Jen Cooper

Peth yw eich profiad canser?

Cefais ddiagnosis Lymffoma Hodgkin bron i 10 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n 19 oed. Roeddwn i yn y brifysgol ar y pryd ac roeddwn i wedi bod yn dioddef o nifer o wahanol symptomau gan gynnwys salwch, peswch drwy’r amser, blinder, colli pwysau a brech.

Yn y pen draw cefais fy nghyfeirio at arbenigwr ar ôl datblygu lympiau o dan fy ngheseiliau ond roeddwn i’n dangos symptomau am dros ddwy flynedd cyn imi gael diagnosis.

Roedd cael y diagnosis yn sioc enfawr ond roedd fy nheulu a fy ffrindiau’n gymorth gwych.

Symudais yn ôl adref wrth imi gael cwrs chwe mis o driniaeth ABVD.

Pan ddechreuais y driniaeth roeddwn i’n teimlo’n well mewn gwirionedd gan fy mod i wedi mynd yn eithaf sâl gyda’r symptomau roeddwn i’n eu dioddef.

Roedd y driniaeth yn llwyddiannus, a flwyddyn i ddyddiad fy sesiwn cemotherapi olaf, rhedais farathon Llundain dros yr elusen Leukemia CARE.

Wedyn cefais fy ngweld yn gyson tan fis Mawrth 2012 pan gefais y newyddion bod ‘popeth yn glir’ a bues i’n dathlu gyda llawer gormod o siampên!

Nawr rwy’n oedolyn normal, ar y cyfan. Rwy’n credu fy mod i’n dioddef o ‘ymennydd cemo’ o bryd i’w gilydd, a dydw i ddim yn ymdopi’n dda â blinder ond heblaw am hynny dydw i ddim yn cwyno.

Rwy’n poeni y gallai fy salwch ddod yn ôl ond rwy’ bob amser yn dweud wrth fy hunan am gymryd un dydd ar y tro ac i geisio peidio â phoeni am y pethau na allaf eu newid.

Pam penderfynoch chi godi arian dros Gymorth Canser Macmillan?

Gydol fy mhrofiad o gael diagnosis, y driniaeth a byw’r tu hwnt i ganser, mae Macmillan wedi bod yno bob amser.

Efallai ei fod yn swnio’n ‘cheesy’ ond roedd gen i nyrs Macmillan yn yr ysbyty a oedd â’r amser i ddweud wrtha i sut byddai’r driniaeth, ac i gysuro fy rhieni.

Cefais help ariannol ar gyfer y biliau yr oeddwn i’n methu eu talu a hyd yn oed nawr mae gwefan Macmillan yn dal i fod yn ffynhonnell wybodaeth hynod werthfawr imi.

Roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i helpu rhywun yn yr un sefyllfa.

Beth ddenodd chi i ymuno â Grŵp Codi Arian Macmillan ‘Cardiff Capital‘?

Yn 2012, cysylltodd y rheolwr codi arian Macmillan lleol â mi; roedd wedi gweld erthygl yn y papur newydd am daith feicio elusennol yr oeddwn i wedi’i gwneud dros Macmillan, o Nairobi yn Kenya i warchodfa bywyd gwyllt yn Tanzania.

Cwrddais â Becs (Rebecca Parke – Rheolwr Codi Arian, Caerdydd a’r Fro) i gael coffi ac esboniodd hi beth roedd y grŵp yn ei wneud. Roedd diddordeb gen i’n syth!

Mae wedi bod yn wych cwrdd â phobl sydd hefyd wedi cael eu heffeithio gan ganser, ac rydyn ni’n gallu gwneud cymaint yn fwy gyda’n gilydd nag y gallwn i ei wneud byth ar fy mhen fy hun.

Dwedwch ychydig wrtha i am eich pwyllgor – Codi Arian ‘Cardiff Capital’?

Rwy’n hoffi meddwl ein bod ni’n gyfeillgar ac yn hwyliog! Grŵp o bobl broffesiynol ydyn ni sy’n cwrdd fwy neu lai bob mis i drafod unrhyw beth sy’n gysylltiedig â Macmillan, o gynnal casgliadau â bwcedi i drefnu digwyddiadau.

12074936_893520807370506_8060757797415354168_n

Beth yw’r uchafbwyntiau ers ichi ymuno â’r pwyllgor?

Ers imi ymuno rydyn ni wedi trefnu dwy noson gwis tafarn a dwy noson gomedi ymysg digwyddiadau eraill.

Mae’r digwyddiadau hyn bob amser yn rhoi cymaint o foddhad i mi – yn sicr maen nhw’n straen ar brydiau wrth drefnu comedïwyr, neu wobrau raffl. Ond ar y noson mae’n wefr gweld cymaint o bobl yn dod, yn cael noson hwyliog ac yn rhoi beth allan nhw i Macmillan.

Rydych chi’n gwirfoddoli i roi eich amser hamdden i godi arian i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Ydy hyn yn cymryd llawer o’ch amser?

Mae pawb sydd ar ein pwyllgor yn gweithio felly rydyn ni i gyd yn gwybod bod codi arian a gweithio’n gallu bod yn heriol. Oherwydd hynny rydyn ni’n hyblyg iawn a does byth unrhyw bwysau ar neb i wneud mwy nag y gallan nhw.

Rydyn ni’n gwneud yr hyn allwn ni, dyna i gyd! Ar rai penwythnosau, efallai y byddaf i’n treulio pedair awr yn gwneud casgliad bwced ar fore Sadwrn, ac wedyn efallai na fyddaf i’n gallu gwneud un arall am fis. Mae hynny’n golygu bod cydbwysedd.

Oes unrhyw beth wedi eich synnu am fod yn aelod o’r pwyllgor?

Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan es i i’m cyfarfod cyntaf a chefais syndod o weld oedran y grŵp (tua diwedd yr 20au yw’r cyfartaledd) a hefyd pam mor wybodus oedd y grŵp. Mae gennym dudalen Facebook, cyfrif Twitter, cyfrif e-bost a blog hyd yn oed!

Beth byddech chi’n ei ddweud wrth rywun oedd yn ystyried cysylltu â’u pwyllgor codi arian Macmillan lleol?

Byddwn i’n dweud, rhowch gynnig arni. Mae’r Pwyllgorau rydw i wedi cwrdd â nhw ar hyd y daith wedi bod mor gyfeillgar, a phawb yn canolbwyntio ar nod cyffredin. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl a siarad am ein profiadau, sydd ddim mor hawdd bob amser. Hefyd, mae’n rhoi cymaint o foddhad imi fod yn rhoi rhywbeth yn ôl. Mae ychydig oriau mewn archfarchnad yn gallu codi cannoedd ac mae hynny’n ei wneud yn werth chweil.

Pe hoffech wybod rhagor am eich grŵp codi arian Macmillan lleol, chwiliwch ein map rhyngweithiol.

Jo Attfield: Why I’m walking the Gower Macmarathon in memory of Bethan

This Saturday 17 September will see hundreds of Macmillan supporters taking part in the Gower Macmarathon – a scenic walk of either 22, 14 or two miles across the beautiful beaches of the Gower Peninsular.

Last year, the event raised an incredible £174,000 – enough to fund a Macmillan nurse for over three years.

This year’s walk looks set to be just as successful with 1,189 walkers signed up and tens of thousands of pounds already raised in sponsorship.

One of those taking part is Jo Attfield, a lecturer from Sketty in Swansea.

She is walking the 14-mile route in memory of her daughter Bethan, who died 10 years ago this month of leukaemia, aged just five.

photo-of-bethan

Jo Attfield is running in memory of Bethan

As Jo explains, “Bethan was diagnosed at the beginning of September when she was just about to start year one (at school). She died quite quickly, not responding properly to treatment, three and a half weeks later.

“We had another daughter, a baby, Rosie, at the time who is now 10 years old. She grew up without her sister but has a seven year old brother Gruff, who never knew Bethan.

“The anniversary of her death is always a hard time of the year. The pain of her loss doesn’t go away, though we live happily enough alongside it.”

Jo will be joined on the route by three friends, Rachel and Linda, a couple from Cardiff, and her walking buddy Kate from Swansea.

Jo says, “It is lovely to raise money in remembrance of Bethan and people have very kindly remembered her on my Just Giving page.

“It is so important for us for her to be talked about and remembered.”

Kathryn Morgan, South West Wales Area Fundraising Manager for Macmillan Cancer Support, said, “The whole Macmillan team were deeply moved when we heard that Jo was taking part in the Gower Macmarathon in memory of Bethan.

“The pain of losing a child will never go away, but we are full of admiration that Jo is continuing to keep her memory alive by taking part in events such as this one to help raise money for other cancer patients.

“We would like to wish Jo all the best for the Gower Macmarathon on Saturday and extend our thanks to her, and all the other walkers taking part, for their incredible fundraising efforts for Macmillan.

“Events such as this are vital in supporting the work we do in Wales, such as funding Macmillan professionals to support people affected by cancer, our information centres in some of Wales’s hospitals, as well as campaigning for better cancer care for patients.”

You can sponsor Jo here, or send her a message of support in the comments below or on our Facebook page.

Are you taking part in a fundraising event for Macmillan? We’d love to hear your story. Tweet us @MacmillanCymru or visit our Facebook page at https://www.facebook.com/macmillan.cymruwales/

Jo Attfield: Pam rwyf yn cerdded Macmarathon Gŵyr er cof am Bethan

Dydd Sadwrn 17 Medi, bydd cannoedd o gefnogwyr Macmillan yn cymryd rhan ym Macmarathon Gŵyr – taith gerdded odidog o 22, 14 neu ddwy filltir ar draws traethau prydferth Penrhyn Gŵyr.

Y llynedd, cododd y digwyddiad £174,000 anhygoel – digon i ariannu nyrs Macmillan am dros dair blynedd.

Mae’r daith gerdded eleni’n argoeli i fod yr un mor llwyddiannus gyda 1189 o gerddwyr wedi cofrestru a degau o filoedd o bunnoedd eisoes wedi eu codi mewn nawdd.

Un o’r rheiny sydd yn cymryd rhan yw Jo Attfield, athrawes o Sgeti yn Abertawe.

Mae hi’n cerdded 14 milltir er cof am ei merch, Bethan, a fu farw 10 mlynedd yn ôl i’r mis yma o lewcemia a hithau ond yn bump oed.

Mae Jo yn esbonio, “Cafodd Bethan ddiagnosis ar ddechrau Medi pan oedd ar fin dechrau blwyddyn un (yn yr ysgol). Bu farw’n gyflym – nid oedd yn ymateb yn iawn i’r driniaeth – dair wythnos a hanner yn ddiweddarach.

photo-of-bethan

Bethan

“Roedd gennym ferch arall, Rosie, oedd yn fabi ar y pryd ac sydd bellach yn 10 oed. Mae hi wedi cael ei magu heb ei chwaer ond mae ganddi frawd saith oed, Gruff, na wnaeth adnabod Bethan erioed.

“Mae pen-blwydd ei marwolaeth bob amser yn gyfnod anodd o’r flwyddyn. Nid yw poen ei marwolaeth byth yn mynd i ffwrdd, er ein bod yn byw’n ddigon hapus ar y cyd â hynny.

Bydd tri ffrind yn ymuno â Jo ar y daith, sef Rachel a Linda, cwpwl o Gaerdydd, a’i chyfaill cerdded, Kate, o Abertawe.

Dywed Jo, “Mae codi arian i gofio am Bethan yn hyfryd ac mae pobl, yn garedig iawn, wedi cofio amdani ar fy nhudalen Just Giving.

“Mae mor bwysig i ni bod pobl yn siarad amdani ac yn ei chofio.”

Dywedodd Kathryn Morgan, Rheolwr Codi Arian Ardal De Orllewin Cymru ar gyfer Cymorth Canser Macmillan, “Cafodd tîm cyfan Macmillan eu cyffwrdd pan glywsant fod Jo yn cymryd rhan yn Macmarathon Gŵyr er cof am Bethan.

“Nid yw’r boen o golli plentyn byth yn mynd i ffwrdd, ond rydym yn llawn edmygedd bod Jo yn parhau i gadw’r cof amdani’n fyw trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn i godi arian ar gyfer cleifion canser eraill.

“Hoffem ddymuno’n dda i Jo yn Macmarathon Gŵyr Dydd Sadwrn ac rydym yn diolch o waelod calon iddi hi, a’r holl gerddwyr eraill sydd yn cymryd rhan, am eu hymdrechion anhygoel yn codi arian i Macmillan.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru, fel ariannu gweithwyr proffesiynol Macmillan i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser, ein canolfannau gwybodaeth yn rhai o ysbytai Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros ofal canser gwell ar gyfer cleifion.”

Gallwch noddi Jo yma, neu anfon neges ati i’w chefnogi isod neu ar ein tudalen Facebook.

Ydych chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Macmillan? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich stori. Gallwch drydar @MacmillanCymru neu fynd i’n tudalen Facebook yn https://www.facebook.com/macmillan.cymruwales/

Coleg Cambria: a year of going green for Macmillan

eleri-brady-croppedThe effervescent Eleri Brady is Fundraising Manager for Macmillan Cancer Support for North Wales and North Powys! Last year, Coleg Cambria selected Macmillan Cancer Support as their chosen charity. Eleri spent the year working closely with staff and students at the college developing fund-raising activities. In her blog Eleri writes about some of her highlights from the fun-packed year!

Firstly a huge well done to staff and students at Coleg Cambria – they’ve raised an amazing £88,632!

Twelve months ago Coleg Cambria had chosen to support Macmillan Cancer Support during their academic year 2015/2016

Coleg Cambria is the third largest college in Wales and serves three local authority areas: Flintshire, Wrexham and Denbighshire and has five sites in North East Wales.

image3

The college’s first event was The World’s Biggest Coffee Morning, I’ve never seen so many cakes that were on sale in Deeside’s main foyer. I talked to a number of staff and students who were so enthusiastic about the event and enjoyed being part of it. I think we sold the last cake at 3pm!

The college took part in many events including supermarket bag packing, sponsored walks and auctions.

Commando-challenge-after-1.jpg

The highlight of the year was 29th February when the staff and students took part in Go Green Day where they held a number of activities across the five sites, students in Wrexham also took part in flash mobs and held a street collection in the town.

2902EM-MacMillan-11-icons.jpg

They even attempted a World record of the most people in the shape of a coffee cup!

Aerial-photo-Human-Coffee-Cup-1-767x432

Alex Thomas, Head of Sixth form completed the London Marathon raising thousands of pounds. I think staff and students enjoyed throwing water at him in stocks a few days before the marathon

marathon-cropped

I want to thank the staff and students of Coleg Cambria for the passion an energy in all their fundraising activities, It has been a pleasure being part of it.

Patient experience: the power of story

HJ-Macmillan-46.jpg

Carol Davies is a Macmillan Lung Cancer Nurse Specialist at Nevill Hall Hospital in Abergavenny. In 2015 she successfully submitted to, and presented at, the prestigious World Lung Cancer Conference in Denver, Colorado. Carol’s pictorial presentation told the story of her patient Norman and the physical and psychological burden that cancer had on Norman and his family’s life. Carol told Norman’s story very powerfully – making even the most hardened professionals in the audience blink back tears.

What are the aims of your current role?

I support lung cancer and mesothelioma patients from initial presentation throughout the duration of their disease.

What led you to submit some of your work to the World Lung Cancer Conference and how did you get to Colorado?

I decided last year to submit two pieces of work which I thought would be useful for lung cancer colleagues around the world to the 16th World Conference on Lung Cancer in Denver, USA.

I felt this would be a way to share learning with international colleagues. It was also a really good opportunity to showcase the work we are doing in Wales.

Tell us more about these two pieces of work

I had an opportunity to be involved with the interview and video telling a patient’s story entirely from their viewpoint. My colleague Naomi and I are Macmillan nurses; so we approached Macmillan for advice about how to go about making the video.

I arranged to meet Norman and his wife, Lynne, to find out what was important to him and what he wanted to say before we made the video itself.

Norman had some very powerful insights and had specific points he wanted to get across and knew exactly what he wanted to say.

What Norman said during the interview was entirely his take on what had happened and how it affected him. It was really moving, especially as Norman opened his story with: “Hello, I am Norman. I am 68-years young and I am dying from mesothelioma.”

He spoke of his shock at his diagnosis and his anger. He had contracted the mesothelioma from his work as an engineer, which exposed him to asbestos.

Norman’s felt his diagnosis had been delayed with opportunities missed. He emphasised that patients should be asked at initial presentation about asbestos exposure.

He spoke about wanting to join a support group but there wasn’t any in Wales specifically for his condition. Norman understood why, because with this type of cancer there is no cure and most patients do not survive long.

He described eloquently the physical and psychological burden of this disease and the impact it had on his and his family’s life.

The video has been used as an educational tool for healthcare professionals.

The second piece of work was a breathlessness leaflet for patients. This was inspired by our lung cancer patients saying there was a lot of information about this symptom. The problem they identified was that they did not feel as though they were able to wade through it all; they asked for something straightforward to help them cope with this complex symptom.

What happened after you submitted the two pieces?

CAROL DAVIES, ABERGAVENNY, 21/03/2016

The breathlessness poster was accepted. To my surprise, shock and initial horror, the patient story was accepted for an oral poster presentation.

Initially  I thought “I can’t do this!”  But then I thought about Norman – this was his legacy, and it deserved to be heard.

The fact that it was Norman’s story really helped me prepare the presentation.  I spent a lot of time thinking about how to do his story justice.

I decided to use a very pictorial presentation to help me get across Norman’s key points and support it verbally with his own words.

How did the presentation go and what do you think they learned?

The presentation went well and was well received. I had to send a copy of the presentation before the conference and the pre-presentation feedback was that my slides were very picture focused.

However, when I delivered the presentation, it had a powerful impact.

I used a picture of Father Christmas to explain in Norman’s words why he decided to postpone his December chemotherapy. He knew this may well be his last Christmas; if it was, he wanted it enjoy it.

He said he understood how a person on death row felt, as he had a death sentence and was living it…. Then he would be gone.

I was told by a lung cancer specialist nurse colleague that hardened professionals in the audience were blinking back tears during the presentation.

I also received other really positive feedback about how powerful and moving the presentation was. I know how proud Norman would be that his story has been told.

The telling of a patient story is a very powerful tool that we all can learn from. Healthcare professionals need to hear what the patients’ experience of the cancer pathway is, and the impact it has on their lives so that we can optimise care.

If you have any questions about cancer talk to our Support Line on 0808 808 0000 (open Monday to Friday 9am to 8pm) or visit our website www.macmillan.org.uk for information and support.

 

 

Profiad claf: grym stori

Nyrs Glinigol Arbenigol Macmillan mewn Canser yr Ysgyfaint yw Carol Davies sy’n gweithio yn ysbyty Nevill Hall, y Fenni. Yn 2015 llwyddodd i gyflwyno cais, a gafodd ei dderbyn, i roi cyflwyniad gerbron Cynhadledd Canser yr Ysgyfaint y Byd yn Denver, Colorado. Adroddodd cyflwyniad lluniau Carol hanes ei chlaf, Norman, a’r baich corfforol a seicolegol roedd canser wedi’i roi ar fywyd Norman a’i deulu. Adroddodd Carol stori Norman mewn ffordd rymus iawn – gan wneud i hyd yn oed y gweithwyr proffesiynol mwyaf calongadarn orfod dal eu dagrau yn ôl.

CAROL DAVIES, ABERGAVENNY, 21/03/2016

Beth yw nodau eich rôl bresennol?

Rwy’n cefnogi cleifion canser yr ysgyfaint a mesothelioma o’r adeg maen nhw’n ymddangos i’r gwasanaeth iechyd gyntaf a thrwy gydol eu clefyd.

Beth sbardunodd chi i gyflwyno peth o’ch gwaith i Gynhadledd Canser yr Ysgyfaint y Byd a sut gyrhaeddoch chi Colorado?

Y llynedd, penderfynais gyflwyno dau ddarn o waith a fyddai, yn fy nhyb i, yn ddefnyddiol i gydweithwyr canser yr ysgyfaint o amgylch y byd, a hynny i ymddangos gerbron 16eg Gynhadledd y Byd ar Ganser yr Ysgyfaint yn Denver, Unol Daleithiau America.

Roeddwn yn teimlo y byddai hyn yn ffordd o rannu dysgu gyda chydweithwyr rhyngwladol. Roedd hefyd yn gyfle gwych i arddangos y gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru.

Dywedwch fwy wrthyn ni am y ddau ddarn yma o waith

Ces i gyfle i gymryd rhan yn y cyfweliad a’r fideo i adrodd hanes claf drwy eu llygaid nhw yn unig. Mae fy nghydweithwraig Naomi a finnau’n nyrsys Macmillan; felly holon ni Macmillan am gyngor ynghylch sut i fynd ati i wneud y fideo.

Trefnais i gwrdd â Norman a’i wraig, Lynne, i glywed beth oedd yn bwysig iddo fe a beth roedd e am ei ddweud cyn i ni wneud y fideo ei hun.

Roedd gan Norman rai mewnwelediadau grymus iawn ac roedd ganddo bwyntiau penodol roedd e am eu cyfleu; roedd yn gwybod yn union beth oedd ganddo i’w ddweud.

Yr hyn a ddywedodd Norman yn ystod y cyfweliad oedd union ei safbwynt ef am yr hyn oedd wedi digwydd a sut roedd wedi effeithio arno fe. Roedd yn sobreiddiol iawn, yn arbennig am fod Norman wedi dechrau ei stori gyda’r geiriau: “Helo, Norman yw i. Rwy’n ddyn ifanc 68 oed ac rwy’n marw o fesothelioma.”

Soniodd am ei sioc wrth gael ei ddiagnosis a’i ddicter. Drwy ei waith fel peiriannwr, a oedd wedi golygu ei amlygu i asbestos, yr oedd wedi datblygu mesothelioma.

Roedd Norman yn teimlo bod oedi wedi bod yn ei ddiagnosis a bod cyfleoedd wedi’u colli. Pwysleisiodd y dylid gofyn i gleifion y tro cyntaf maen nhw’n ymddangos i’r meddyg am amlygiad i asbestos.

Soniodd am ei ddymuniad i ymuno â grŵp cymorth ond doedd dim un yng Nghymru yn benodol ar gyfer ei glefyd ef. Roedd Norman yn deall pam; oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wella’r math hwn o ganser ac nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn goroesi’n hir.

Disgrifiodd yn huawdl iawn faich corfforol a seicolegol y clefyd hwn a’r effaith roedd yn ei chael ar ei fywyd ef a bywyd ei deulu.

Mae’r fideo wedi’i ddefnyddio fel teclyn addysgol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Taflen ar ddiffyg anadl i gleifion oedd yr ail ddarn o waith. Ysbrydolwyd hyn gan ein cleifion canser yr ysgyfaint, a oedd yn dweud bod llawer o wybodaeth am y symptom hwn. Y broblem a nodwyd ganddyn nhw oedd eu bod yn teimlo nad oedden nhw’n gallu palu drwyddi; gofynnon nhw am rywbeth symlach i’w helpu i ymdopi gyda’r symptom cymhleth hwn.

Beth ddigwyddodd ar ôl i chi gyflwyno’r ddau ddarn?

Derbyniwyd y poster ar ddiffyg anadl. Er mawr syndod a sioc i mi i ddechrau, derbyniwyd stori’r claf fel testun cyflwyniad poster llafar.

I ddechrau, roeddwn i’n meddwl, “Alla i ddim gwneud hyn!”  Ond wedyn meddyliais am Norman – dyma oedd ei waddol, ac roedd yn stori oedd yn haeddu cael ei chlywed.

Roedd y ffaith mai stori Norman oedd hi wedi fy helpu’n fawr iawn wrth baratoi’r cyflwyniad. Treuliais gryn amser yn meddwl am y ffordd gallwn wneud cyfiawnder â’r stori.

Penderfynais i ddefnyddio cyflwyniad gyda llawer o luniau i’m helpu i gyfleu pwyntiau allweddol Norman a’u hategu ar lafar gyda’i eiriau ef ei hun.

CAROL DAVIES, ABERGAVENNY, 21/03/2016

Sut aeth y cyflwyniad a beth ddysgon nhw, ydych chi’n meddwl?

Aeth y cyflwyniad yn dda a chafwyd ymateb da iddo fe. Bu’n rhaid i mi anfon copi o’r cyflwyniad cyn y gynhadledd a’r adborth ymlaen llaw oedd bod fy sleidiau’n canolbwyntio i raddau helaeth ar y lluniau.

Fodd bynnag, pan draddodais y cyflwyniad, cafodd effaith bwerus.

Defnyddiais lun o Siôn Corn i esbonio yng ngeiriau Norman pam y penderfynodd ohirio’i gemotherapi yn y mis Rhagfyr. Roedd yn sylweddoli ei bod yn bur debyg mai hwn fyddai ei Nadolig olaf; os dyna oedd y gwir amdani, roedd am ei fwynhau.

Dywedodd ei fod yn deall sut deimlad oedd hi i wynebu rhes yr angau, am fod ganddo ef ddedfryd farwolaeth yn hongian drosto a’i fod yn byw’r ddedfryd honno… yna byddai wedi diflannu.

Dywedwyd wrthyf i gan gydweithiwr sy’n nyrs arbenigol canser yr ysgyfaint fod gweithwyr proffesiynol calongadarn yn y gynulleidfa’n dal eu dagrau yn ôl yn ystod y cyflwyniad.

Ces i adborth arall a oedd yn gadarnhaol iawn hefyd ynghylch pa mor rymus a chynhyrfus oedd y cyflwyniad. Rwy’n gwybod mor falch fyddai Norman fod ei stori wedi’i hadrodd.

Mae adrodd hanes claf yn declyn pwerus iawn ac yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ddysgu drwy ei wneud. Mae angen i weithwyr proffesiynol gofal iechyd glywed beth yw profiad cleifion o’r llwybr canser, a’r effaith mae hynny’n ei chael ar eu bywydau, fel y gallwn wneud y gorau o’u gofal.

Yn Macmillan, rydyn ni’n gwybod y gall diagnosis canser effeithio ar bob rhan o’ch bywyd ac rydyn ni yma i roi cymorth ichi. Fe rown ni help ichi gael y cymorth, yr egni a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch chi, fel y gallwch chi ddechrau teimlo fel chi eich hun unwaith eto. Ffoniwch 0808 808 00 00 neu ymweld â macmillan.org.uk

Gwneud gwahaniaeth

Mae Julie Jones, Arweinydd Effeithiolrwydd Gwasanaethau Macmillan, yn edrych sut gallwn  julie jonesymagweddu at ffyrdd presennol o weithio sy’n dod ag arbenigedd y GIG a heb fod yn y GIG at ei gilydd er mwyn sicrhau bod gofal cleifion yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Julie Jones yw fy enw i a fi yw Arweinydd Effeithiolrwydd Gwasanaethau Macmillan. Rwyf yn y swydd ers mis Awst 2014.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r bartneriaeth ddynamig a gweithredol rhwng Macmillan a’r GIG wedi creu cryn argraff arnaf.

Rwy’n teimlo’n gryf fod cyfleoedd i ddatblygu, helaethu a chydnabod ymhellach fanteision y bartneriaeth wrth gyfrannu’n weithredol i raglenni gwaith y GIG a phartneriaid eraill, a hynny er mwyn cael gwell profiad a gwell canlyniadau i gleifion.

Bydden ni gyd yn dymuno bod ein teuluoedd, ein ffrindiau a ni ein hunain yn cael eu gweld fel person ac nid fel salwch.  Felly, sut rydyn ni’n gwneud hyn?

Mae llawer o dystiolaeth am y cynnydd sydd i’w ddisgwyl yn niferoedd cleifion canser a niferoedd y rhai sy’n byw gyda chanser.

Er mwyn rhoi ffyrdd newydd arloesol ar waith o gwrdd â’r her hon rydym wedi dechrau nifer o ffrydiau gwaith er mwyn sicrhau bod gofal cleifion yn canolbwyntio ar yr unigolyn.  Yn barod, mae’r rhain yn cynnwys nid yn unig y GIG a Macmillan ond hefyd y trydydd sector, awdurdodau lleol, a chleifion a theuluoedd.

Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn bwysig.  Mae’n cydnabod arbenigedd a rôl pawb sy’n gysylltiedig, yn enwedig profiad y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

Gan gofio hyn, mae nifer o ddarnau o waith wedi dechrau ar draws Cymru, yn seiliedig ar angen lleol ac wedi’u nodi fel meysydd i’w gwella mewn Arolwg diweddar o Brofiadau Cleifion Cymru gyfan.

Rwy’n galw’r darnau hyn o waith yn ‘ffrydiau gwaith’ ac mae un peth yn gyffredin iddynt, hynny yw cynorthwyo pobl sy’n byw gyda chanser neu sydd wedi’u heffeithio ganddo. Mae ffrydiau gwaith yn cynnwys amrywiaeth fawr o bobl gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fel meddygon ysbyty a meddygon teulu, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, dietegwyr ac yn y blaen, a staff heb fod yn glinigol fel cydlynwyr gwybodaeth, staff gweinyddol, yn ogystal â staff heb fod yn y GIG fel gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr, cynghorwyr budd-daliadau lles a llawer mwy.

Felly, beth yw’r ffrydiau gwaith hyn? Maen nhw’n cynnwys edrych o’r newydd ar ddulliau presennol o weithio er mwyn dod ag arbenigedd y GIG a heb fod yn y GIG at ei gilydd.

Dyma rai enghreifftiau o hyn ond nid yw’r rhestr yn holl gynhwysfawr:

  • sicrhau bod pob claf yn cael gweithiwr allweddol o adeg y diagnosis ymlaen. Mae’r arbenigedd ganddynt i gydlynu gofal parhaus mewn ffordd amserol ac effeithiol, fel Nyrs Glinigol Arbenigol Canser yn ystod cam acíwt y driniaeth a’r gofal.
  • hyrwyddo iechyd a lles gan gynnwys gweithgarwch corfforol er mwyn cynorthwyo annibyniaeth a hunanreoli.
  • galluogi gofal wedi’i bersonoli drwy ddefnyddio Asesiadau Anghenion Cyfannol a Chynlluniau Gofal.
  • datblygu crynodebau o driniaethau, gan ddefnyddio templed wedi’i ddiffinio ymlaen llaw, i gleifion, i feddygon teulu ac i wasanaethau perthnasol eraill er mwyn gwella cyfathrebu.
  • darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol, diweddar er mwyn cynorthwyo cleifion gyda meysydd fel; dal ati i fod yn egnïol yn gorfforol, cael mynediad i gyngor ariannol a hunanreoli.

Wrth i’r ffrydiau gwaith gael eu sefydlu, rydym yn dechrau gweld sut maen nhw gyda’i gilydd yn cyfrannu i roi profiad gwell i gleifion yn ogystal ag i’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.  Dyma rai enghreifftiau o hyn:

  • Mae manylion cysylltu’r gweithiwr allweddol yn cael eu cynnwys ar y crynodebau triniaeth fel mater o drefn. Mae rhannu enw a manylion cysylltu’r gweithiwr allweddol yn sicrhau bod cleifion a gweithwyr gofal iechyd eraill yn gwybod â phwy y dylen nhw gysylltu’n gyntaf.

Y gweithiwr allweddol sydd yn y man gorau i gael trosolwg o driniaeth cleifion ac i ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol i gynorthwyo a llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd. Bellach mae llawer o Weithwyr Allweddol yn defnyddio neu’n peilota’r Asesiad Anghenion Cyfannol er mwyn adnabod anghenion cleifion nad ydynt wedi’u cwrdd ac er mwyn cynhyrchu cynllun gofal gyda’r claf.

  • Dangoswyd bod crynodebau o driniaethau a gynhyrchwyd mewn da bryd ar gyfer gofal sylfaenol a chleifion, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd perthnasol eraill, yn gwella cyfathrebu drwyddi draw.

Mae rhoi eu copi eu hunain i gleifion yn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys a’u bod yn gwybod am eu gofal a’u rheolaeth eu hunain.  Bydd adran ar y ffurflen yn nodi’n eglur gamau gweithredu i staff gofal iechyd eraill a ddylai olygu bod llai o oedi ac amwysedd ar gyfer gofal a rheoli i’r dyfodol.

  • Mae cwblhau Asesiad Anghenion Cyfannol (Holistic Needs Assessment (HNA)) yn gyfle i adnabod anghenion y claf nad ydynt wedi’u hadnabod o ganlyniad i’w ddiagnosis a/neu driniaeth. O ganlyniad, mae modd rhoi sylw i’r rhain yn aml cyn iddyn nhw ddod yn fater brys fel cyfeirio at gael cyngor ariannol, neu gael eich cyfeirio i grŵp/fforwm cymorth lleol.
  • Mae rhan o’r pecyn adfer yn cynnwys cynnig mynediad i ddigwyddiadau iechyd a lles er mwyn cynorthwyo unigolion i hunanreoli ac i fyw gyda’r hyn sy’n aml yn cael ei alw’n ‘normal newydd’.

Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddod yn egnïol yn gorfforol mewn ffordd sy’n briodol iddyn nhw fel dychwelyd i’r gampfa, cerdded y ci neu gall olygu symud ychydig yn fwy na ddoe.

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfeirio cleifion i ddigwyddiadau iechyd a lles lleol a gweithgareddau lleol, angen sy’n aml yn cael ei adnabod drwy lenwi’r Asesiad Anghenion Cyfannol.

Mae’n bwysig ein bod ni’n creu cyfleoedd ledled Cymru i ddysgu oddi wrth ein gilydd sut mae gwahanol ffrydiau gwaith a newidiadau mewn arferion yn cael eu rheoli ar lefel leol.

Wedyn gallwn rannu’r arferion gorau, deall goblygiadau newid a sicrhau y gallwn gyflawni gwasanaethau ledled Cymru sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth, ymgysylltu ag adnoddau lleol ond yn bwysig gwrdd ag anghenion lleol mewn ffordd y mae modd ei chyflawni ac sy’n gynaliadwy i bob ardal.

Felly, yn ymarferol, mae canolbwyntio ar yr unigolyn yn ein galluogi i ddarparu gofal a chymorth priodol adeg y diagnosis drwodd i’r driniaeth a thu hwnt a gwneud yn siŵr ein bod yn deall canlyniadau triniaeth a byw gyda chanser.

 

 

 

We’re making a difference and being a friend

Carrie Harris, Direct Volunteering Services Manager.Giving a couple of hours a week to have a cuppa and a chat or tackling a  little ironing can make the world of difference to a person with a cancer diagnosis. Carrie Harris, Direct Volunteering Services Manager, explains how support services like Carmarthenshire Support Buddies can help people affected by cancer who are isolated, lonely and perhaps in need of a helping hand. 

Macmillan Cancer Support recognises that people affected by cancer need support in many different ways. Our research shows that one in four people newly diagnosed with cancer in the UK will lack support from family or friends during their treatment and recovery — that represents over 4,000 newly diagnosed people each year in Wales.

Over half of those who lack this support say it’s because their family and friends are too busy to help or live too far away. And a third of those people have no one there for them.

The feelings of isolation and loneliness that so many people experience make cancer even harder. And people often feel powerless and as if control has been taken away from them, but they don’t have to go through it alone.

We, Macmillan, have a whole range of support services to help people feel less alone – and feel more like themselves. Carmarthenshire Support Buddies is one of those support services set up to be there for people who are isolated, lonely and perhaps need a helping hand.

volunteer group november 2013 2a

Volunteer group – (Carrie Harris centre)

Since 2010, the number of people living with cancer in the UK has grown by almost half a million people to 2.5 million. By 2030 this will increase to 4 million people, many of whom will have complex needs

The increase in people living with cancer is largely due to improvements in survival and detection, and a growing and ageing population, with the number of over-65s living with cancer increasing by almost a quarter (23%) in just five years.

Macmillan has recognised and acknowledged these changes and the necessity to provide support in many different ways for those who need it. So, we set about looking into different ways we can reach people so they don’t have to face cancer alone.

In 2012, Macmillan Wales carried out a consultation event in Carmarthenshire to find out what the priority support needs were for local people who either had a cancer diagnosis or were caring for someone, as well as what services were already available and where there were any gaps.

My role is to scope, develop, set up and manage, practical and emotional support services like Carmarthenshire Buddies. This service took its first request for support in March 2014 and has gone from strength to strength ever since.

We have recruited and trained 37 volunteers with 23 currently active buddies, provided support to over 50 people with nearly 400 support interactions either face-to-face or over the telephone. The support our volunteers have provided includes befriending and companionship, going out on social trips, ironing, washing up, picking up shopping, light housework and gardening, ad hoc transport and signposting to other helpful services.

The feedback from service users and those that refer them to the service is so positive – the volunteers are extremely valued, as one service user said about her buddy “she is a tonic!”

Llanelli_18

Paula, Dianne and Henrietta – the volunteering relationship is a positive experience for volunteers and service users

One of our volunteers from Llanelli recently told me “I get so much from volunteering, you can make such a difference to someone’s life but you’ll also be surprised how much you’ll get out of it too. Volunteers might think they’re not appreciated but trust me we are, big time, doing what we do”

Another of our buddies – a lead volunteer, who helps to coordinate the service as well as provide support, told me about why she got involved:

“Cancer is an issue that is very close to my heart. My parents, aunties and uncles have all been affected. My mother had a Macmillan nurse and I remember she called her ‘her angel’. A Macmillan nurse is a very special, very different type of person. So it’s nice to do something in return for Macmillan.”

Not everyone is alone but sometimes their families might be far away or unable to visit every day. With our service, all you need to do is volunteer a couple of hours a week, have a cuppa and a chat or perhaps do a tiny bit of ironing. It can feel like a mountain to someone affected by cancer, but you’re there making a difference and being a friend – it’s not magic and is so rewarding!”

Our volunteers are really there for people at a time when they need someone – a helping hand or a listening ear or both! I’m immensely proud and honoured to be involved with the service and to work with the amazing volunteers that give their time and commitment to others so they don’t face cancer alone.

You can find out more about volunteering for Macmillan on our website.